Rydym yn gyffrous i gyhoeddi ein bod yn un o bartneriaid ‘Yr Arddangosfa Gelf Fawr’, a arweinir gan Firstsite ac a gefnogir gan rwydwaith Plus Tate a Chyngor Celfyddydau Lloegr!
P’un a ydych yn artist proffesiynol, yn frwd dros gelf, yn ceisio rhoi cynnig arno neu’n dysgu am gelf am y tro cyntaf erioed, gallwch helpu i hyrwyddo celf, mynegiant a chreadigrwydd ar draws y DU drwy greu eich gwaith celf eich hun a’i rannu.
Gallwch ddefnyddio unrhyw beth yr hoffech i wneud eich gwaith celf. Gallwch weithio ar eich pen eich hun, fel aelwyd, neu gallwch gydweithio gyda’ch ffrindiau, eich cydweithwyr, aelodau o’ch tîm, pobl sy’n byw yn eich bloc fflatiau, ar eich stryd, pobl o’r ysgol neu fan addoli. Eich dewis chi yw e!
Lawrlwythwch y pecyn gweithgareddau am ddim i ddarganfod sut i gymryd rhan – mae’n cynnwys ysbrydoliaeth gan artistiaid gwych megis Sonia Boyce, Jeremy Deller, Ryan Gander, Antony Gormley, Anish Kapoor, Tai Shani a David Shrigley, yn ogystal â gweithiau celf ysbrydoledig o gasgliadau enwog y DU, gan gynnwys amgueddfa’r Ashmolean, yr Amgueddfa Brydeinig, The Courtauld, yr Oriel Genedlaethol, yr Oriel Bortreadau Genedlaethol, Amgueddfa Genedlaethol Lerpwl, Orielau Cenedlaethol yr Alban, yr Academi Frenhinol ac Amgueddfa Victoria ac Albert.
Mae croeso i bawb gymryd rhan, felly ymunwch â ni i fod yn rhan o’r arddangosfa fwyaf erioed!
Llun: ‘Firstsite – The Great Big Art Exhibition.’