Dydd Sadwrn 20 Tachwedd 2021 - Dydd Sul 20 Mawrth 2022
10:30 am - 4:00 pm
Mae Oriel Gelf Glynn Vivian yn falch o gyflwyno’r corff newydd o waith hwn gan yr artist o Gaerdydd, Zoe Preece, sy’n defnyddio’r parth domestig i’w hysbrydoli a’i harwain.
Mae Preece wedi creu cyfres o wrthrychau domestig arferol, wedi’u cerfio’n fanwl â llaw gan ddefnyddio porslen, neu blastr wedi’i droi ar durn (peiriant sy’n troelli’n gyflym iawn, ac y gellir ei ddefnyddio i gerfio plastr). Ar ôl iddi greu’r gwrthrych gan ddefnyddio’r durn, mae wedyn yn creu mowld ac yn ei gastio mewn porslen hylif. Mae’r broses gywrain hon yn arwain at wrthrychau bregus, wedi’u saernïo’n wych sy’n ceisio cyfleu agweddau anghyffyrddadwy, annifyrrol a bregus bywyd domestig
Ynghyd â’r porslen mae hefyd yn creu darnau o gelfi cerfluniol o bren collen Ffrengig, sydd wedi’u mowldio i edrych fel bod lleiniau sychu llestri wedi’u plygu arnynt, neu lyfr agored. Fe’u gwnaed mewn cydweithrediad â Jennifer Finnegan, gwneuthurwr celfi proffesiynol, a Fablab Caerdydd, gan ddefnyddio’u prosesau sganio 3D a thechnolegau melino dan reolaeth cyfrifiadur. Mae pob darn, boed yn un ceramig neu bren, yn cael ei wneud yn fanwl iawn ac yn cymryd oriau i’w greu.
Ar gyfer yr artist, mae gweithgarwch ailadroddus ac anweledig ei chrefft yn cyfateb i’r gwaith llafur domestig diddiwedd anweladwy a wneir gan amlaf gan fenywod, o fewn y cartref, fel glanhau, gwaith gofal a magu plant. Mae Preece yn ceisio cyfleu’r gwaith cartref disylw hwn nad yw’n cael ei werthfawrogi’n aml yn y gosodiad hwn. Mae rhywbeth annifyrrol a rhyfedd am y gosodiad, sy’n gorwedd o dan berffeithrwydd y crefftwaith. Golygfa ddomestig efallai, lle mae rhywbeth wedi digwydd nad oeddem yn dyst iddo; awyrgylch a grëwyd gan y gwrthrychau annaearol hyn a’r gwagle o’u cwmpas.
Thema arall y mae Preece yn ei hailadrodd yn ei gwaith yw ei hystyriaeth o’r gwerth rydym yn ei roi ar y gwrthrychau gweithrediadol rydym yn eu defnyddio yn ein bywydau pob dydd. Drwy ei gwaith mae hi’n cyfleu offer cegin syml a chelfi fel celfweithiau i’w hystyried, nid ar gyfer eu ffurf a’u swyddogaeth yn unig ond am eu diben cymdeithasol a’r straeon maent yn eu corffori.
Bydd yr arddangosfa’n teithio i Ganolfan Gelfyddydau Aberystwyth (Ceredigion, Cymru) ac Oriel Plas Glyn y Weddw (Gwynedd, Cymru).
Mae Zoe Preece yn gweithio o Fireworks Clay Studios yng Nghaerdydd, DU. Astudiodd Gerameg yng Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd (2000), cwblhaodd radd Meistr mewn Cerameg hefyd yn Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd (2010), a TAR (Addysg Bellach/Addysg Uwch) ym Mhrifysgol Caerdydd (2013).Mae’n gweithio fel darlithydd cysylltiol yn Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd, a thiwtor cerameg ar gyfer Colegau Unedig y Byd, Coleg yr Iwerydd.
Mae Zoe wedi arddangos yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Yn ddiweddar, fe’i dewiswyd ar gyfer arddangosfa AWARD, British Ceramic Biennial (2019), enillodd y fedal aur ar gyfer Crefft a Dylunio, Gwobr Brynu Cymdeithas Celfyddyd Gyfoes Cymru a Gwobr Josef Herman, Dewis y Bobl yn y Lle Celf yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru (2018) ac roedd yn enillydd a ddewiswyd gan feirniaid yn yr arddangosfa ryngwladol Materials: Hard and Soft, Denver, UDA (2017). Mae ei gwaith mewn casgliadau cyhoeddus yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Caerdydd a’r Amgueddfa Grefftau a Dylunio, Denver, UDA.
Categorïau