Dydd Sadwrn 13 Awst 2022
11:00 am - 1:00 pm
Gyda’r artist Joshua Jones o ‘On Your Face Collective‘.
16+ oed
Sut ydyn ni’n defnyddio sain i ysgrifennu? Mae’r rhan fwyaf o bobl yn gyfarwydd â thechnegau sain mewn ysgrifennu, fel rhythm neu odl, ond sut arall gallwn ddefnyddio sain?
Yn y gweithdy hwn bydd Joshua Jones yn arwain ysgrifenwyr o bob gallu drwy weithgareddau ysgrifennu creadigol a ddyluniwyd i annog cyfranogwyr i ‘fod yn agored’ i’r seiniau o’u cwmpas.
Ysgrifennwr ac artist cwiar, niwrowahanol o Lanelli yw Joshua Jones. Mae ganddo radd BA mewn ysgrifennu creadigol o Brifysgol Bath Spa. Bydd ei gasgliad cyntaf o straeon byr yn cael ei gyhoeddi gan Parthian yn ystod hydref 2023, ac mae ei lyfryn barddoniaeth ar ddod cyn bo hir gyda Broken Sleep Books. Mae’n byw yng Nghaerdydd ar hyn o bryd.
Ar agor i bobl o bob sgil, croeso i ddechreuwyr.
Am ddim, croesewir rhoddion o £3.
Lleoedd yn brin. Rhaid cadw lle. Ffoniwch 01792 516900 neu cadwch le ar-lein
CADWCH LLE NAWR
Cadwch lle nawr – Ysgrifennu Sain: Gweithdy Ysgrifennu Creadigol
Categorïau