Dydd Llun 9 Awst 2021 - Dydd Llun 23 Awst 2021
Trwy'r dydd
09.08.21 – 23.08.21, Amseroedd amrywiol
Trwy gydol mis Awst, gallwch gofrestru ar gyfer ein cyrsiau Ysgol Gelf Ddigidol am ddim, a arweinir gan artistiaid sy’n defnyddio’r cyfryngau digidol diweddaraf yn eu gwaith.
Wedi’u dylunio ar gyfer unigolion sy’n ceisio ehangu eu sgiliau creadigol digidol, mae’r cyrsiau tridiau a phedwar diwrnod o hyd ar-lein yn defnyddio meddalwedd am ddim i greu gwaith celf digidol gan ddefnyddio amrywiaeth o brosesau blaengar.
Darperir yr holl wybodaeth ac nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol.
Mae’r cyrsiau’n cynnwys y canlynol:
-
Creu Ffilmiau DIY Artistiaid Arbrofol (i ddechreuwyr) gyda Cinzia Mutigli
-
Cerfluniau digidol gyda Dale Sinoia
-
Trin delweddau a golygu fideos gyda Seema Mattu
-
Seinweddau Creadigol gyda Jason and Becky
-
Beth sy’n wir? – realiti estynedig lo-fi gyda Megan Broadmeadow
I ddod o hyd i ragor o wybodaeth ac i gadw lle ar-lein, ewch i’n tudalen digwyddiadau.
I gael rhagor o wybodaeth neu i drafod unrhyw ofynion, e-bostiwch Daniel McCabe, Swyddog Dysgu a Chyfranogiad y Glynn Vivian, Daniel.McCabe@abertawe.gov.uk
Creu Ffilmiau DIY Artistiaid Arbrofol (i ddechreuwyr) gyda Cinzia Mutigli
09.08.21, 16.08.21, 23.08.21, 5:00pm – 7:00pm
Mae’r gweithdy hwn, a gynhelir gan artistiaid sy’n creu ffilmiau, yn ymwneud â defnyddio rhadwedd mewn ffordd arbrofol i drosi syniadau yn ffilm. Mae’r pwyslais ar greadigrwydd ac ymagweddau celfyddyd gain gyfoes ac amgylchedd cefnogol.
Cadwch lle nawr: Creu Ffilmiau DIY Artistiaid Arbrofol (i ddechreuwyr) gyda Cinzia Mutigli
Cerfluniau digidol gyda Dale Sinoia
10.08.21, 11.08.21, 17.08.21, 18.08.21, 3:00pm – 5:00pm
Gallwch ddysgu am hanfodion creu modelau 3D gan ddefnyddio’r radwedd am ddim, zbrush.
Trin delweddau a golygu fideos gyda Seema Mattu
10.08.21, 13.08.21, 18.08.21, 5:00pm – 7:00pm
Mae cwrs Seema’n canolbwyntio ar drin delweddau a golygu fideos. Gan ddefnyddio meddalwedd fel Blender, GIMP a Snapseed, bydd Seema’n edrych ar sut y gellir defnyddio gwahanol feddalwedd trwy nifer o sianeli i greu canlyniadau amrywiol. Mae Seema’n ymroddedig i ddarparu amgylchedd dysgu sydd am ddim, yn hygyrch ac yn bleserus hefyd.
Cadwch lle nawr: Trin delweddau a golygu fideos gyda Seema Mattu
Seinweddau Creadigol gyda Jason and Becky
11.08.21, 17.08.21, 20.08.21, 1:00pm – 3:00pm
Yn y gweithdy hwn, bydd yr artistiaid Jason a Becky yn rhannu sut maent yn defnyddio sŵn yn eu harferion celf ac yn eich cyflwyno i ffyrdd y gellir dod o hyd i seiniau, eu casglu, eu recordio, eu cyfuno a’u trin i greu eich Seinwedd Greadigol eich hunain.
Beth sy’n wir? – realiti estynedig lo-fi gyda Megan Broadmeadow
12.08.21, 19.08.21, 20.08.21, 3:00pm – 5:00pm
Yn y sesiynau hyn bydd cyfranogwyr yn cyfleu eu byd lleol a gwrthrychau gan ddefnyddio ffonau clyfar mewn dwy ffordd – drwy fideo a ffotogrametreg (sy’n creu fersiwn ddigidol 3D o’r gwrthrych). Byddwch yn dysgu sut i ddefnyddio meddalwedd fideo i newid sut y mae’n edrych ac yna creu animeiddiad realiti estynedig (AR) byw i’w rannu ar-lein a’i osod yn y byd go iawn.
Cadwch lle nawr: Beth sy’n wir? – realiti estynedig lo-fi gyda Megan Broadmeadow
Categorïau