Dydd Gwener 7 Hydref 2022 - Dydd Sul 29 Ionawr 2023
10:00 am - 5:00 pm
Mohamed Hassan, Megan Winstone, Casgliad yr Oriel Bortreadau Genedlaethol
7 Hydref 2022 – 29 Ionawr 2023
Bydd yr arddangosfa hon yn dod â deg o bortreadau ffotograffig o’r Oriel Bortreadau Genedlaethol ynghyd, sy’n archwilio hunaniaeth Gymreig, ynghyd â gweithiau gan ddau ffotograffydd o Gymru, Mohamed Hassan a Megan Winstone. Mae hon yn arddangosfa gydweithredol newydd a drefnwyd gyda’r Oriel Bortreadau Genedlaethol, Llundain, i archwilio hunaniaeth, cynrychiolaeth a pherthnasedd cyfoes portreadau. Mae’r arddangosfa yn rhan o raglen bartneriaeth genedlaethol yr Oriel sef y ‘National Skills Sharing Partnership Programme’ lle bydd gyr Oriel Bortreadau Genedlaethol yn cydweithio gyda chydweithwyr mewn deuddeng amgueddfa ac oriel ar draws y DU, i greu rhwydwaith ddysgu sy’n cynnwys arddangosfeydd, cyfnewidfeydd, mentora, seminarau ac interniaethau cydweithredol.
Mae’r gweithiau o’r Oriel Bortreadau Genedlaethol yn tynnu sylw at Gymry adnabyddus, gan gynnwys y Teulu Bevan (Aneurin Bevan, Jenni Lee, Karol Keres; Pietro Nenni) gan Henri Cartier-Bresson; y gantores Shirley Bassey gan Mike Owen, yr actor Richard Burton gan Irving Penn; a’r canwr Tom Jones gan Tony Frank.
Ochr yn ochr â’r portreadau hyn o’r Oriel Bortreadau Genedlaethol, bydd yr artistiaid Mohamed Hassan a Megan Winstone yn arddangos detholiad o’u gwaith eu hunain sy’n darlunio pobl yng Nghymru heddiw.
Mae gwaith Mohamed Hassan wedi’i ysbrydoli gan Gymru a’i thirwedd, ei phobl a’i chymunedau. Mae Mohamed yn defnyddio’i ffotograffiaeth bortreadau i, “herio rhai o’r ystrydebau a’r barnau sydd gan bobl am bobl eraill.
“Rwy’n gobeithio y bydd y sawl sy’n edrych ar fy mhortreadau’n gofyn: Pwy yw’r person hwn? Beth yw ei stori? Ai’r person hwn yw’r person dwi’n meddwl neu’n credu ydyw?” Mohammed Hassan
Mae portreadau amrwd a phryfoclyd Megan Winstone wedi’u hysbrydoli gan ddiwylliant pync a damcaniaeth ffeministaidd. Yn ei harddull sy’n nodweddiadol o anymddiheurol a di-ofn, mae Megan yn defnyddio’i gwaith i herio a tharfu ar ddisgwyliadau cymdeithasol, boed hynny’n ymwneud â’r edrychiad benywaidd neu gymunedau yng nghymoedd de Cymru. Mae Megan yn gweithio ar draws meysydd ffasiwn, harddwch a ffotograffiaeth ddogfennol.
Drwy’r holl arddangosfa, bydd tîm Dysgu’r Glynn Vivian yn gweithio gyda phobl ifanc yn Abertawe i archwilio hunaniaeth Gymreig gyfoes ac ystyried portreadau o bwy ddylai ymddangos yng Nghasgliadau’r Oriel. Bydd hyn yn arwain at ddeng portread newydd yn cael eu tynnu gan Mohamed a Megan, a fydd yn cael eu harddangos yn y Glynn Vivian yng Ngwanwyn 2023.
Meddai Dr Nicholas Cullinan, Cyfarwyddwr yr Oriel Bortreadau Genedlaethol, Llundain: “Rydyn ni’n falch iawn o fod yn partneru gydag Oriel Gelf Glynn Vivian ar y Bartneriaeth Rhannu Sgiliau Genedlaethol fel rhan o’n prosiect ‘Inspiring People’ trawsnewidiol. Drwy weithio ar y cyd ag amgueddfeydd ac orielau fel hyn, ein gobaith yw annog y broses o gyfnewid sgiliau a gwybodaeth a fydd o fudd i weithwyr proffesiynol yr amgueddfa a’n cynulleidfaoedd, ac i ddatblygu arddangosfeydd cydweithredol a fydd yn sicrhau bod ein portreadau’n hygyrch i lawer mwy o bobl ar draws y DU.”
Mohamed Hassan
Mae Hassan, sy’n dod yn wreiddiol o Alexandria, yn byw ac yn gweithio yn Sir Benfro yng Nghymru. Mae ei waith wedi cael ei arddangos yn Oriel Davies, Y Drenewydd, 2022, Ralph Goertz yn Kunsthalle Darmstadt, Museum Goch, 2021, Ffotogallery, Caerdydd. Mae ei wobrau’n cynnwys Arddangosfa Cystadleuaeth ‘Trajectory Showcase’ yn Shoreditch, Llundain, Nova Cymru 2018, Arddangosfa Portreadau Ffotograffig Taylor Wessing 2018, yr Oriel Bortreadau Genedlaethol yn Llundain. Mae comisiynau diweddar yn cynnwys gweithio gyda Collective Cymru/Theatr Genedlaethol Cymru i gynhyrchu gwaith sy’n cofnodi cymunedau ledled Cymru, drwy weithio ar y cyd ag artistiaid eraill i baratoi ar gyfer Festival UK 2022.
Megan Winstone
Mae Megan Winstone (sy’n bwy ac yn gweithio yng Nghymru a Llundain) yn defnyddio diwylliant pync a damcaniaeth ffeministaidd mewn modd chwareus i gael gwared ar ddisgwyliadau cymdeithasol a delweddaeth corff negyddol. Mae ei gwaith wedi tynnu sylw at ei threftadaeth Gymreig, gan arwain at gydweithio gyda Dr Martens, Stella McCartney, The Face, Vogue a llawer mwy. Fe’i cydnabuwyd yn fenyw adnabyddus o bwys gan gylchgrawn W ac mae wedi’i chynnwys yn rhestr New Wave Creatives Cyngor Ffasiwn Prydain yn 2020. Mae Megan hefyd yn perfformio o flaen y camera mewn fideos cerddorol ar gyfer sêr fel Sam Smith ac Adam Lambert.
Rhaglen Bartneriaeth Genedlaethol ar gyfer Rhannu Sgiliau
Mae’r National Skills Sharing Partnership Programme yn brosiect cydweithredol lle mae’r Oriel Bortreadau Genedlaethol yn partneru gyda chydweithwyr ledled y DU i rannu’i Chasgliad wrth iddi gael ei thrawsnewid. Mae’r partneriaethau uchelgeisiol hyn ag amgueddfeydd, grwpiau cymunedol lleol ac ysgolion sydd wedi’u hariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a’r Gronfa Gelf, yn bwriadu dod â’r Oriel yn nes at gymunedau ar draws y DU.
Yr Oriel Bortreadau Genedlaethol
Sefydlwyd yr Oriel Bortreadau Genedlaethol ym 1856 i annog, trwy bortreadau, werthfawrogiad a dealltwriaeth y bobl sydd wedi gwneud ac sy’n creu hanes a diwylliant Prydain. Heddiw mae’n hyrwyddo ymgysylltu â phortreadu ym mhob cyfrwng i ystod eang o’r cyhoedd drwy warchod, tyfu a rhannu casgliad mwyaf y byd o bortreadau.
Mae’r Oriel yn St Martin’s Place, Llundain ar gau ar hyn o bryd tan 2023, wrth i waith adeiladu hanfodol ddigwydd ar y prosiect ailddatblygu ‘Inspiring People’, a fydd yn trawsnewid yr Oriel, gan gynnwys adnewyddu’r adeilad cyfan a chreu canolfan ddysgu newydd. Yn ystod y cyfnod cau, bydd yr Oriel yn parhau i rannu ei Chasgliad drwy ei sianeli digidol a chyfres o bartneriaethau a chydweithrediadau cenedlaethol. www.npg.org.uk
Categorïau