Dydd Sadwrn 2 Gorffennaf 2022
11:00 am - 3:00 pm
Cyflwynir gan DASH, y sefydliad celfyddydau gweledol a arweinir gan yr anabl
Gan gynnwys yr artist Chris Tally Evans
Ymyriadau a Sgwrs Artist – Chris Tally Evans
Ymunwch â ni ddydd Sadwrn, 2 Gorffennaf am gyfres o ymyriadau a sgwrs artist gyda’r artist ‘We are Invisible, We are Visible’, Chris Tally Evans.
O 11am, ymunwch â’r artist, Chris Tally Evans, yn Oriel Gelf Glynn Vivian i gael cip treiddgar, addysgiadol a digywilydd ar gasgliad y Glynn Vivian fel nad ydych wedi’i weld erioed o’r blaen.
Siri y Beirniad Celf
Efallai eich bod yn meddwl nad yw orielau celf yn llawer o hwyl i bobl ddall neu sydd â nam ar eu golwg. Yr holl baentiadau na ellir cyffwrdd â nhw yn hongian yn llonydd ar y waliau. Ond beth petai eich ffôn yn feirniad celf cyfeillgar, a fyddai’n disgrifio’r paentiadau, y cerfluniau a’r gosodiadau ac yn rhoi ei farn amdanynt?
Dilynir hyn gan sgwrs artist am 12pm, lle bydd yn trafod ei brofiadau wrth greu gwaith fel artist anabl, celf i bobl anabl yn gyffredinol a sut yr aethpwyd ati i greu ymyriad WAIWAV.
I gael rhagor o wybodaeth
11:00 am Yr ymyriad cyntaf
12:00 pm Sgwrs Artist
2:00 pm Yr ail ymyriad
Digwyddiad am ddim. Does dim angen cadw lle
Categorïau