Dydd Gwener 22 Gorffennaf 2022
7:30 pm - 11:45 pm
Noson o ddathliadau cwiar gyda cherddoriaeth a pherfformiadau
Nos Wener 22.07.22, 19.30pm – tan hwyr
Oriel Elysium, Y Stryd Fawr, Abertawe
Ymunwch â ni ar gyfer noson o adrodd straeon, cerddi, cerddoriaeth a pherfformio gydag artistiaid LHDTC+ Cymru.
Noson i ddathlu agoriad, Queer Reflections, On Your Face Collective gydag Oriel Gelf Glynn Vivian, arddangosfa o waith newydd mewn ymateb i gasgliad parhaol yr Oriel.
Cynhelir gan Rahim El Habachi
Mae Frances Bolley’n aml-offerynwraig amryddawn sy’n dwlu ar bob math o gerddoriaeth. Drwy gyfuniad o ddrama a chynildeb mae hi’n adrodd straeon caneuon ac yn canu caneuon am straeon.
Ganwyd Rokat, canwr-gyfansoddwr Queer yn India, yn y dwyrain canol ac mae bellach yn byw yn Lloegr. Mae ei gerddoriaeth yn gyfuniad o ddawns electronig wedi’i asio â’i farddoniaeth wreiddiol ei hun
Mae Ivor Woods (a adwaenir hefyd fel Rachel) yn aml-offerynwraig cwiar sy’n hanu o dde Cymru, sy’n creu cerddoriaeth pop amgen o’i stiwdio gartref.
Am Ddim, croeso i bawb
Dyddiadau’r arddangosfa
On Your Face x Glynn Vivian
Dydd Gwener 22 Gorffennaf – Dydd Sul 18 Medi 2022
Categorïau