Dydd Gwener 12 Gorffennaf 2024 - Dydd Sul 26 Ionawr 2025
10:00 am - 4:30 pm
Lluniau a gynhyrchir gan gryndodau llais dynol
Mae Heather Phillipson wedi dewis y gweithiau hyn gan Margaret (Megan) Watts Hughes (1842 – 1907). Crëwyd y gweithiau ar wydr hyn sydd prin yn cael eu gweld o ganlyniad i awydd Watts Hughes i brofi’r dwyseddau gwahanol yn nhôn y llais dynol.
Roedd Margaret, a anwyd yn Nowlais, Merthyr Tudful, wedi denu llawer o sylw fel cantores yn ystod ei phlentyndod. Ym 1864, daeth yn fyfyriwr yn yr Academi Gerdd Frenhinol. Llwyddodd i ennill Ysgoloriaeth y Brenin oherwydd ei llais nodedig a’i thalent gerddorol.
Drwy ei hymchwil cynnar i sain, cyflwynwyd Watts Hughes i waith Ernst Chladni. Roedd Chladni wedi darganfod bod y weithred o dynnu bwa feiolin ar draws plât llawn powdwr yn gwneud i ddarluniau ymddangos yn y powdwr oherwydd y dirgryniadau. Ym 1885, dyfeisiodd Margaret ddyfais (yr Eidoffôn) a oedd yn recordio’i llais drwy ei argraffu ar wydr. Roedd yr offeryn yn cynnwys tiwb, derbynnydd a philen a oedd wedi’i hymestyn dros y derbynnydd.
Gan ddefnyddio glud a’i wasgaru ar draws y bilen, sylweddolodd y byddai defnyddio nodau o draw gwahanol drwy’r Eidoffôn yn creu siapau gwahanol, yn yr un modd ag addasu tewdra’r defnydd a maint a lliw’r glud a ddefnyddiwyd.
Mae’r gweithiau hyn ar fenthyg gan Amgueddfa ac Oriel Gelf Castell Cyfarthfa.
Mae’r arddangosfa hon yn rhan o arddangosfa Heather Phillipson’s Out of this World.
‘Roedd ganddi ddiddordeb mewn astudio sain. Roedd hi’n byw mewn byd llawn sain. Iddi hi, roedd cerddoriaeth yn y gwynt, yn siffrwd y dail, yng nghrychiau’r dŵr, yn y glaw ac yn y taranau – roedd hi hyd yn oed yn clywed cerddoriaeth yn y traffig cerbydau ar y stryd.’
Dyfyniad o The Merthyr Express, 9 Ebrill 1910
“Rwyf wedi creu’r delweddau penodol hyn drwy ganu, ac ar ôl camu drwy ddrysau, rwyf wedi gweld delweddau tebyg yn yn y blodau, y rhedyn a’r coed o’m cwmpas; ac eto, wrth i fi wylio siapiau’r lluniau’n tyfu, yn union fel y mae blodyn yn tyfu o’r blagur, mae gen i obaith y gall yr arbrofion gostyngedig hyn awgrymu sut mae byd natur yn cynhyrchu ei ffurfiau hardd ei hun, ac efallai y bydd yn helpu, i ryw raddau, i ddangos cyswllt arall yng nghadwyn hir y greadigaeth.”
“Mae dim ond angen i ni archwilio’r delweddau hyn, sydd mor syml â’r egwyddor sy’n sail iddynt, i ganfod ein hunain wyneb yn wyneb â natur yn ei hamrywiaeth ddiderfyn.”
Dyfyniadau o The Eidophone Voice Figures, 1904 gan Margaret Watts Hughes.
Categorïau