Dydd Gwener 8 Ebrill 2022 - Dydd Sul 18 Medi 2022
10:30 am - 4:00 pm
Mae Meddwl yn Wyrdd yn ofod sy’n gyfuniad o arddangosfa a gwaith ymchwil, gan drawsnewid yr Atriwm yn stiwdio dylunio gymunedol, lle gallwn ailystyried ein perthynas â’r amgylchedd wrth i ni fynd ati i ailddylunio gardd yr oriel.
Mae’r prosiect yn dychmygu beth all gardd fod; noddfa ar gyfer lles, lle ar gyfer dysgu creadigol, hafan ar gyfer bioamrywiaeth. Mae’n ystyried agweddau radical yr ardd, fel safle i dyfu, modelu a chynaeafu syniadau o newid cymdeithasol.
Cynigia’r Atriwm le beiriniadol i fyfyrio ar ein perthynas â’r tir, o’r hyperleol i’r byd-eang, gan archwilio themâu trefolaeth, gwledigrwydd, amaethyddiaeth, diwydiant a chwalfa hinsawdd. Drwy ddod â chasgliadau at ei gilydd o bob cwr o’r ddinas, bydd Meddwl yn Wyrdd yn archwilio ein treftadaeth ddiwydiannol gyffredin, a’i heffaith ar ymerodraeth, tras, amgylchedd, llafur a’r tir. Mae gwneud gardd yn weithred o obaith, yn wahoddiad. Dyma gyfle i archwilio’r hanesion sydd wedi ein harwain yma, a’r posibiliadau o erddi a lleoedd gwyrdd, fel ynysfor hanfodol, i’n cadw yn fyw.
Artist arfer cymdeithasol yw Owen Griffiths (g. 1983, Abertawe) sy’n gweithio mewn cymunedau.
Mae ei waith wedi’i wreiddio mewn cydweithredu a lle, yr amgylchedd a chyfiawnder cymdeithasol. Mae ganddo ddiddordeb mewn cymhwyso celf fel arf ar gyfer defnyddioldeb a grymuso. Mae’r arddangosfa hon a phrosiect gardd Glynn Vivian yn rhan o ddeialog barhaus ynghylch creu mannau gwyrdd cymunedol y mae Owen wedi bod yn eu harchwilio ers 2011.
Ariennir Meddwl yn Wyrdd: Deialog y Tir gan 14-18 NOW, rhaglen gelfyddydau’r DU ar gyfer canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf, gyda chymorth Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a’r Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, Y Cyfryngau a Chwaraeon. Fe’i cynhyrchwyd gan Ganolfan y Celfyddydau Taliesin mewn partneriaeth ag Oriel Gelf Glynn Vivian, Cyngor Abertawe ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau rhan o Amgueddfa Cymru.
Rydym yn ddiolchgar am gymorth Amgueddfa Cymru, Amgueddfa Abertawe, Archifau Gorllewin Morgannwg, Ymddiriedolaeth Cwm Penllergaer, Gerddi Botaneg Abertawe a Isabel Griffin, Cynhyrchydd Creadigol, Now The Hero\Nawr Yr Arwr.
Oriel Gelf Glynn Vivian
Alexandra Road, Swansea, SA1 5DZ
map
Categorïau