Dydd Sadwrn 17 Medi 2022 - Dydd Sul 8 Ionawr 2023
10:00 am - 5:00 pm
Arddangosfa Deithiol ‘Arts Council Collection‘
Glynn Vivian gyda’r Hwyr/Parti Agoriadol 6 Hydref 5.30pm – 8.30pm
Mae Oriel Gelf Glynn Vivian yn falch iawn o gyflwyno The World We Live In, arddangosfa deithiol gan ‘Arts Council Collection‘ sy’n dod â phaentio, cerflunio, ffotograffiaeth a ffilm ynghyd i archwilio themâu sy’n amrywio o ddatblygiad trefol i fudo a’r berthynas rhwng canolau dinasoedd a maestrefi.
Mae dinasoedd o gwmpas y byd wedi datblygu ac amrywiaethu’n gyflymach yn ystod y deng mlynedd diwethaf nag erioed o’r blaen a heddiw mae dros hanner poblogaeth y byd yn byw mewn amgylchedd trefol. Mae’r agweddau niferus ar fywyd trefol – pensaernïaeth, mudo, cymudo, torfeydd, sŵn, goleuadau – wedi bod yn ffynhonnell gyfoethog o ysbrydoliaeth i artistiaid ers tro.
Mae The World We Live In, y daw ei theitl o waith celf gan Carel Weight, yn dod â chelfweithiau’r ugeinfed ganrif a chyfoes at ei gilydd i archwilio’r materion hyn, wrth gynnig lle i ystyried rôl y ddinas, yn enwedig yng ngoleuni digwyddiadau’r ddwy flynedd ddiwethaf. Wrth archwilio themâu datblygiad trefol – megis mewn gweithiau gan Victor Pasmore a Toby Paterson – i fudo a’r berthynas rhwng canolau dinasoedd a maestrefi, mae’r artistiaid a gyflwynir yn yr arddangosfa hon yn ymateb i amrywiaeth o leoedd ar draws y byd. Mae Diwedd Amser, gan George Shaw yn darlunio ardal Cofentri lle cafodd ei fagu, tra bod Parres Melanie Smith yn dangos cyrion dad-bersonoledig Dinas Mecsico, y lle y mae hi wedi byw a gweithio ynddo ers 1989.
Mae’r profiad synhwyraidd o fyw mewn amgylcheddau trefol hefyd yn cael sylw yn yr arddangosfa, gyda gwaith fel Goleuadau II: Y Llong wedi’i Thraflyncu Michael Andrews, yn darlunio dinasweddau disglair ac arwyddion neon ac mae gwaith Rut Blees o Luxemburg sef Cyfarfydda â Fi yn Arcadia, yn dal y goleuadau artiffisial o floc o fflatiau yn yr East End yn Llundain.
Ochr yn ochr ag ystod eang o weithiau’r arddangosfa, mae The World We Live In hefyd yn cynnwys rhywfaint o gasgliad Arts Council Collection o ffotograffau dogfen o’r 1960au a’r 1970au sy’n cyflwyno golygfa unigryw o fywyd canol dinas ar draws y DU.
Heddiw, mae’r Arts Council Collection a sefydlwyd ym 1946 fel casgliad cenedlaethol ar gyfer y DU, yn gofalu am dros 8,000 o gelfweithiau gan bron 2,200 o artistiaid. Rheolir y Casgliad gan Ganolfan Southbank ar ran Cyngor y Celfyddydau Lloegr ac mae wedi ymrwymo i gefnogi artistiaid o amrywiaeth eang o gefndiroedd a disgyblaethau, gan amlaf ar gam cynnar yn eu gyrfa, er mwyn adlewyrchu diwylliant cyfoethog, amrywiol y DU. Mae’n gasgliad cenedlaethol sy’n cael ei ddangos yn eang y gellir ei weld mewn amgueddfeydd, orielau, ysgolion, prifysgolion, ysbytai a chymdeithasau elusennol ledled y DU a thramor. I gael rhagor o wybodaeth am The World We Live In: Celf a’r Amgylchedd Trefol, ewch i wefan Arts Council Collection yma.
Mae Oriel Gelf Glynn Vivian yn rhan a Gyngor Abertawe ac yn cael ei chefnogi gan grant o Gyngor Celfyddydau Cymru.
Arddangosfa deithiol o gasgliad Cyngor y Celfyddydau yw hon sydd, i’w dangos yn Abertawe, yn cynnwys gweithiau gan fenthycwyr preifat. Rydym yn ddiolchgar am gefnogaeth Oriel Cristea Roberts
Arts Council Collection
Casgliad cenedlaethol o gelf Brydeinig fodern a chyfoes yw Arts Council Collection. Rydym yn ymrwymedig i gefnogi artistiaid o amrywiaeth o gefndiroedd a disgyblaethau, gan amlaf ar gam cynnar yn eu gyrfaoedd. O osodiadau aml-ran i berfformiad, paentio a delwedd symudol, mae’r celfweithiau sy’n dod i mewn i’r casgliad yn rhai sy’n cynrychioli’r gelfyddyd orau a mwyaf uchelgeisiol a wnaed yn y DU. Rydym yn dod â chelf i bob cornel o’r wlad drwy fenthyciadau i amgueddfeydd, orielau, ysgolion, ysbytai a sefydliadau cyhoeddus eraill a thrwy ein rhaglenni dysgu a’n harddangosfeydd teithiol. Sefydlwyd Arts Council Collection ym 1946 ac fe’i rheolir gan Ganolfan Southbank, Llundain, ar ran Cyngor y Celfyddydau Lloegr. www.artscouncilcollection.org.uk
Cyngor y Celfyddydau Lloegr
Cyngor y Celfyddydau Lloegr yw’r asiantaeth ddatblygu genedlaethol ar gyfer creadigrwydd a diwylliant. Erbyn 2030 rydym am i Loegr fod yn wlad lle mae creadigrwydd pob un ohonom yn cael ei werthfawrogi ac yn cael y cyfle i ffynnu a lle mae pob un ohonom yn cael mynediad at ystod ryfeddol o brofiadau diwylliannol o safon uchel. Rhwng 2018 a 2022, byddwn yn buddsoddi £1.45 biliwn o arian cyhoeddus gan y llywodraeth ac oddeutu £860 miliwn gan y Loteri Genedlaethol i helpu i wireddu’r weledigaeth hon. www.artscouncil.org.uk
Ar ôl argyfwng COVID-19, mae Cyngor y Celfyddydau Lloegr wedi datblygu pecyn ymateb brys gwerth £160 miliwn, gyda bron 90% yn dod o’r Loteri Genedlaethol, ar gyfer sefydliadau ac unigolion y mae angen cefnogaeth arnynt. Am ragor o wybodaeth, ewch i www.artscouncil.org.uk/covid19
Canolfan Southbank
Mae Canolfan Southbank yn un o ganolfannau celf mwyaf y DU mewn lleoliad amlwg ar lan yr afon yng nghanol ardal fwyaf diwylliannol a bywiog Llundain ar lan ddeheuol afon Tafwys. Rydym yn bodoli i gyflwyno profiadau diwylliannol sy’n dod â phobl ynghyd ac rydym yn cyflawni hyn drwy ddarparu’r gwagle i artistiaid greu a chyflwyno’u gwaith gorau a thrwy greu lle ble gall cynifer o bobl â phosib ddod ynghyd i brofi gwaith beiddgar, anarferol sy’n agoriad llygad. Rydym am fynd â phobl o’r hyn sy’n arferol, a hynny’n ddyddiol. Mae gan y safle hanes creadigol a phensaernïol arbennig sy’n estyn yn ôl i Ŵyl Prydain 1951. Mae Canolfan Southbank yn cynnwys Neuadd Frenhinol yr Ŵyl, Neuadd y Frenhines Elizabeth, Ystafell Purcell ac Oriel Hayward, yn ogystal â’r Llyfrgell Farddoniaeth Genedlaethol a Chasgliad Cyngor y Celfyddydau. Mae hefyd yn gartref i bedair cerddorfa breswyl (Cerddorfa Ffilharmonig Llundain, y Gerddorfa Ffilharmonia, Sinfonietta Llundain a Cherddorfa’r Oes Oleuedig) a phedair cerddorfa gyswllt (Cerddorfa Aurora, Cerddorfa Gyngerdd y BBC, Cerddorfa Chineke! a Cherddorfa Ieuenctid Genedlaethol Prydain Fawr).
Categorïau