Dydd Sadwrn 13 Awst 2022 - Dydd Llun 31 Hydref 2022
10:00 am - 5:00 pm
Prosiect addysg gelf arloesol a gynhelir ar draws y DU yw The World Reimagined, a’r nod o drawsnewid y ffordd rydym yn deall y Fasnach Drawsatlantig mewn caethweision o Affrica, a’i heffaith ar bob un ohonom, fel y gallwn wneud cyfiawnder hiliol yn realiti, gyda’n gilydd.
Mae’r prosiect, sydd wedi’i gefnogi gan y partner cyflwyno swyddogol Sky, yn cynnwys llwybr o gerfluniau glôb mawr ar draws saith dinas, gan gynnwys: Birmingham, Bryste, Leeds, Caerlŷr, Dinas-ranbarth Lerpwl, Llundain ac Abertawe.
O 13 Awst i 31 Hydref 2022, bydd y globau’n cael eu harddangos yn y dinasoedd hyn er mwyn ysbrydoli ac ysgogi cymunedau i ddeall yn well yr hyn y mae’n ei olygu i fod yn Ddu ac yn Brydeinig. Gan ddod â realiti ac effaith y Gaethfasnach Drawsatlantig yn fyw drwy gofio’r gorffennol wrth barhau i symud ymlaen, dethlir yr ysbryd a’r diwylliant sydd wedi dioddef cymaint.
Mae’r llwybrau wrth wraidd rhaglenni dysgu, cymunedol a threftadaeth sy’n gwahodd pawb i gymryd rhan.
Upside-Down World
KYLE LEGALL
THEMA TAITH DDARGANFOD
Bydd y glôb a grëwyd gan yr artist Kyle Legall ar gael i’w weld yng ngardd Oriel Gelf Glynn Vivian.
Mae’n rhaid i’r gwaith o wneud cyfiawnder hiliol yn realiti ddechrau gyda’r gymuned – gyda’n profiadau, ein gobeithion a’n cyfraniadau unigol ac ar y cyd.
Crëwyd dyluniad Kyle mewn ymateb i sgyrsiau a gweithdai gyda chymunedau lleol.
I gael rhagor o wybodaeth, gallwch weld yr arweiniad i’r llwybr yma
Globau Ysgolion
Ategir y prosiect gan rhaglen ddysgu sy’n darparu taith greadigol i fyfyrwyr, athrawon ac ysgolion tuag at ddyfodol o gyfiawnder hiliol.
Mae ysgolion ar draws y DU wedi cael y cyfle i gymryd rhan mewn rhaglen ddysgu heriol a chreu globau eu hunain a fydd yn rhan o lwybrau cerfluniau The World Reimagined.
Daw’r globau sy’n cael eu harddangos yma o’r lleoliadau canlynol:
Ysgol Gynradd Gadeiriol San Joseff, Ysgol Gynradd Gatholig Illtud Sant, Ysgol Gynradd Parkland ac Ysgol Gynradd Sgeti
Deg Gwrthrych o’r Casgliad
Cynhaliodd Tîm y Glynn Vivian, gyda chymorth Dr Zehra Jumabhoy, ymchwil ar y celfweithiau hyn fel rhan o The World Reimagined, prosiect sy’n archwilio naw thema sy’n rhoi cyfle i ni ailddyfeisio’r gorffennol, y presennol a’r dyfodol.
Categorïau