Dydd Sadwrn 8 Hydref 2022
2:00 pm - 4:00 pm
Gyda Gaynor Legall, Stacey Olika a Cleo Alberta Lake-Ayiih
Enwau stryd, henebion a chasgliadau amgueddfa sy’n gysylltiedig â chaethiwed – a ddylwn ni eu cadw neu beidio?
Ymunwch â ni am gyflwyniad bywiog gan Gaynor Legall, a aned yng Nghaerdydd, am gofebion Abertawe a Chymru i gaethiwon, wedi’i ddilyn gan sgwrs â Stacey Olika, aelod o brosiect Uncomfortable Truths Gwasanaeth Amgueddfeydd Bryste. Caiff y sgwrs ei chadeirio gan Cleo Lake-Ayiih, a bydd digon o amser am gwestiynau a sylwadau gan y gynulleidfa.
Rhaid cadw lle. Ffoniwch 01792 516900 neu cadwch le ar-lein
Am ddim, croesewir rhoddion o £3.
CADWCH LLE NAWR
Mae Gaynor Legall wedi gwneud hanes.
Hi oedd y fenyw gyntaf erioed o dras Affricanaidd i gael ei hethol yn gynghorydd yng Nghymru. Yn ystod ei chyfnod fel Cynghorydd yng Nghaerdydd, roedd hi ar fwrdd Diverse Cymru a BAWSO, ac roedd hi’n Gyfarwyddwr Canolfan Hanes a Chelfyddydau Butetown. Dyfarnwyd gwobr Llwyddiant Gydol Oes i Gaynor gan y Gymdeithas Cydnabod Llwyddiant Menywod Cymreig Lleiafrifoedd Ethnig ac ar hyn o bryd mae’n gadeirydd y Gyfnewidfa Treftadaeth a Diwylliant yn Butetown.
Yn 2020 fe’i penodwyd gan Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford i arwain grŵp tasg a gorffen a fydd yn archwilio’r holl gerfluniau, adeiladau ac enwau strydoedd yng Nghymru. Mae Gaynor Legall yn eiriolwr menywod lleiafrif ethnig ledled Cymru.
Dylunydd amlddisgyblaeth yw Stacey Olika ac mae’n strategydd amrywiaeth greadigol ar hyn o bryd.
Mae diddordeb mewn curadu a gweithrediaeth wedi arwain at Stacey yn cyflwyno sawl arddangosfa ei hunan er mwyn creu portread go iawn o artistiaid lleol. Mae hefyd yn gyd-sylfaenydd No Boundaries, llwyfan sy’n rhannu cynrychiolaethau o’r sector creadigol ar draws cenedlaethau a rhanbarthau, ac mae’n rhan o brosiect The Uncomfortable Truths a gynullwyd gan Wasanaeth Amgueddfeydd Bryste i geisio ddadorchuddio’r gwirionedd annifyr y tu ôl i wrthrychau mewn amgueddfeydd – sut cawsant eu casglu, yr hyn maen nhw’n ei gynrychioli a’r gorffennol anodd sydd y tu ôl iddynt.
Enwyd Stacey yn un o weithwyr creadigol dan 24 oed mwyaf ysbrydoledig Bryste yn 2017 a 2019 ac yn 2021 fe’i henwyd yn un o fenywod mwyaf dylanwadol Bryste.
Mae Cleo Alberta Lake-Ayiih yn weithiwr ymgysylltu â’r gymuned proffesiynol ac ymchwilydd sydd wedi bod yn rhan o’r sector celfyddydau a diwylliant am dros ddau ddegawd.
Roedd hefyd yn Arglwydd Faer Bryste yn flaenorol (2018-2019). Yn ystod ei chyfnod fel Cynghorydd Y Blaid Werdd, cyfrannodd at y gwaith o basio Cynnig Cymod yng Nghyngor Dinas Bryste am rôl Bryste yn y Fasnach Drawsatlantig mewn caethweision o Affrica. Mae Cleo yn gweithio ym Mryste ac Abertawe ar hyn o bryd fel cydlynydd cymunedol ar gyfer The World Reimagined.
Categorïau