Dydd Llun 29 Gorffennaf 2019 - Dydd Sul 1 Mawrth 2020
10:00 am - 5:00 pm
Mae’n bleser gan y Glynn Vivian weithio gydag Ymddiriedolaeth y Mary Rose a Phrifysgol Abertawe i ddod â chasgliad o wrthrychau unigryw o The Mary Rose i Gymru am y tro cyntaf.
Mae Dr Nick Owen a’r tîm yng Ngholeg Peirianneg Prifysgol Abertawe wedi bod yn gweithio gyda Ymddiriedolaeth y Mary Rose ers dros deng mlynedd, gan ddefnyddio technegau gwyddonol blaengar i ddatgelu’r gwir am y bobl a oedd ar fwrdd y llong ryfel Duduraidd ddrylliedig.
Mae arbenigwyr wedi darganfod bod The Mary Rose yn llong fwy rhyngwladol nag a dybiwyd, ac maent wedi dod o hyd i dystiolaeth fod rhai aelodau o’r criw o darddiad Ewropeaidd, a dau aelod o darddiad Gogledd Affrica o bosib.
Caiff ymwelwyr y cyfle i weld nifer o eitemau a ddarganfuwyd yn cael eu harddangos yn yr oriel, gan gynnwys eitemau megis dillad, arfau Tuduraidd, a ac atgynhyrchiad arbennig o un o benglogau’r criw, a grëwyd yn Abertawe gan ddefnyddio modelau ffotogrametreg (technoleg 3D).
Hefyd yn yr arddangosfa mae Portread o fenyw o’r 16eg ganrif o Gasgliad yr Oriel, a gafodd ei hadfer yn ddiweddar gan warchodwr paentiadau’r oriel.
Suddodd y Mary Rose yn y Solent ym 1545, yn ystod brwydr lyngesol yn erbyn Ffrainc, pan gollodd cannoedd o forwyr eu bywydau. Codwyd y llong ddrylliedig o waelod y môr ym 1982.
Mae’r arddangosfa, The Mary Rose: People and Purpose yn parhau yn yr oriel o 20 Gorffennaf tan 1 Mawrth 2020.
Mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth y Mary Rose a Phrifysgol Abertawe. Cefnogir gan Oriel Science, Prifysgol Abertawe.
Oriel Gelf Glynn Vivian
Alexandra Road, Swansea, SA1 5DZ
map
Categorïau