Dydd Gwener 23 Mai 2025 - Dydd Sul 2 Tachwedd 2025
10:00 am - 4:30 pm
Mae’n bleser gan Oriel Gelf Glynn Vivian gyflwyno Teigrod a Dreigiau: India a Chymru ym Mhrydain, arddangosfa ryfeddol sy’n ymchwilio i’r cysylltiadau dwfn rhwng isgyfandir India a Chymru.
Cyd-guradu gan Dr Zehra Jumabhoy.
Glynn Vivian Gyda’r Hwyr, nos Wener 23 Mai Oriel ar agor tan 8:00pm
Perfformiad Nikhil Chopra, dydd Gwener 23 Mai, 10:00am – 6:00pm
Am ddim, croeso i bawb. Does dim angen cadw lle
Mae Teigrod a Dreigiau yn edrych ar eiconograffi cenhedloedd de Asia a Chymru; gan archwilio sut maent wedi dychmygu eu hunain – neu wedi’u dychmygu – dros y canrifoedd. Os India oedd ‘yr em yn y goron ymerodrol’, a allem ddadlau mai Cymru oedd trefedigaeth gyntaf Lloegr? Wrth i Gymru frwydro am ei hunaniaeth o fewn ‘Prydeindod’, mae’n amserol ailasesu’r ffordd y gwnaeth gyfrannu at uchelgeisiau ymerodrol Prydain, elwa ohonynt a hyd yn oed dioddef drostynt. Mae’r sioe yn ymchwilio i waddol yr Ymerodraeth Brydeinig a’i pherthnasedd parhaus ar gyfer hunaniaeth Gymreig yn ogystal ag ar gyfer India, Pacistan a Bangladesh.
Mae’r arddangosfa hon yn cynnwys dros 100 o gelfweithiau – paentiadau, ffotograffau, perfformiadau, tecstilau, gosodweithiau cerfluniol a chyfryngau newydd – gan oddeutu 70 o artistiaid o Gymru, Lloegr, India a Phacistan. Daw benthyciadau hanesyddol a chyfoes o gasgliadau preifat a chyhoeddus, gan gynnwys Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Castell Powis yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Chasgliad Ymerodraeth a Chymanwlad Brydeinig Amgueddfa Bryste. Cefnogir benthyciadau gan Raglen Fenthyca Weston drwy Art Fund. Rhaglen Fenthyca Weston, a grëwyd gan Garfield Weston Foundation ac Art Fund, yw’r cynllun ariannu cyntaf erioed ar draws y DU i alluogi amgueddfeydd llai a rhai awdurdodau lleol i fenthyca celfweithiau ac arteffactau o gasgliadau cenedlaethol.
Mae’r arddangosfa’n olrhain cymhlethdodau cymdeithasol a gwleidyddol y berthynas rhwng India a Chymru. Mae’n tynnu sylw at gysylltiadau ymerodrol (drwy ryfel, masnach ac iaith) ac yn treiddio i gywerthoedd eraill. Os Cymru yw trefedigaeth fewnol Lloegr, fel yr oedd India yn un allanol gynt, beth gallwn ni ei ddysgu o gymharu’r ddwy? Mae’r arddangosfa’n ystyried symbolaeth weledol darostyngiad ymerodrol (llew Britannia yn goruchafu ar y teigr Indiaidd; draig goch Cymru yn erbyn draig wen Lloegr) a deffroad cenedlaethol. Yn union fel yr ysbrydolwyd mudiadau annibyniaeth India gan syniadau’r Fam India, yn yr un modd mae cenedlaetholdeb Cymreig yn cydio yn sgertiau Cymru’r famwlad.
Mae comisiynau newydd gan artistiaid cyfoes (fel yr artist perfformiad o Goa, Nikhil Chopra) wedi’u cefnogi gan CELF (Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol Cymru).
Mae grŵp tecstilau cymunedol croestoriadol Oriel Gelf Glynn Vivian, Threads, wedi bod yn gweithio gyda’r artist rhyngwladol Adeela Suleman, sy’n byw yn Karachi, Pakistan, a Menna Buss o Abertawe, i greu darn o gelf mewn ymateb i dapestri mawr Suleman, a gomisiynwyd ar gyfer yr arddangosfa.
Dr Zehra Jumabhoy, Darlithydd Hanes Celf, Prifysgol Bryste, y DU:
“Mae Teigrod a Dreigiau yn troi o gwmpas y cwestiwn canolog: beth mae’r Ddraig (h.y. Cymru) a’r Teigr (h.y. India) yn ei rannu? Yng ngolau dadleuon ‘dadwladychu’, galwadau am annibyniaeth i Gymru a’r cynnydd mewn cenedlaetholdeb-gwrol ar draws de Asia (ac yn wir mewn mannau eraill), dyma’r amser perffaith i ailasesu gorffennol ymerodrol Prydain a’i ganlyniadau cyfoes parhaus.”
Karen MacKinnon, Cyfarwyddwr Oriel Gelf Glynn Vivian,
“Mae’r arddangosfa ryfeddol hon yn dod ag artistiaid o dde Asia a Chymru ynghyd i archwilio’r croestoriad lle gallwn archwilio ein gorffennol a’n dyfodol gyda’n gilydd. Mae llawer o rymoedd newidiol yn cwrdd yn y mannau hyn; yma y mae diwylliannau’n gwrthdaro ac yn cyfathrebu ond yma hefyd y mae ideolegau yn cydfodoli, yn cyfuno ac yn gwahanu.”
Meddai Sophia Weston, Dirprwy Gadeirydd Sefydliad Garfield Weston,
“Mae rhaglen fenthyciadau Weston yn grymuso amgueddfeydd ac orielau ar draws y DU i ddod â chelf a gwrthrychau diddorol iawn i gynulleidfaoedd lleol, lle gallant gael eu profi drwy lens treftadaeth a hanes rhanbarthol. Rydym yn falch iawn o gefnogi’r arddangosfa hon sy’n ysgogi’r meddwl ac yn archwilio’r cysylltiadau rhwng Cymru ac isgyfandir India.”
Mae’r arddangosfa wedi’i churadu gan Swyddog Arddangosfeydd Oriel Gelf Glynn Vivian, Katy Freer a’r hanesydd celf Dr Zehra Jumabhoy ym Mhrifysgol Bryste. Ariannwyd ymchwil Jumabhoy gan un o Gymrodoriaethau Ymchwil Guradurol Paul Mellon Centre for British Art.
Mae’r arddangosfa hon yn ddiolchgar am gefnogaeth gan Cyngor Celfyddydau Cymru, Gasgliad Taimur Hassan; Canvas Gallery, Karachi; Grosvenor Gallery, Llundain; Chatterjee & Lal Gallery, Mumbai, a Chemould Prescott Road, Mumbai. Bydd y llyfr a fydd yn cyd-fynd â’r arddangosfa, gyda thraethawd curadurol Teigrod a Dreigiau gan Zehra Jumabhoy, yn ogystal â thestunau gan yr hanesydd celf Pacistanaidd, Salima Hashmi a’r artistiaid o Gymru, Iwan Bala a Peter Finnemore, yn cael ei gyhoeddi ar y cyd â Hmm Foundation gyda grant gan Seher a Taimur Hassan.
Ariannwyd prosiect Threads gan Grant ‘Creu’ Cyngor Celfyddydau Cymru.
Bydd rhaglen lawn o weithdai, sgyrsiau a digwyddiadau drwy gydol cyfnod yr arddangosfa, yn dechrau gyda pherfformiad gan Nikhil Chopra ddydd Gwener 23 Mai.
Categorïau