Saturday 21 September 2024
12:00 pm - 2:00 pm
Ymunwch â ni am y daith gerdded hwn o gwmpas Abertawe, sydd am ddim, gyda Catrin James.
Mae pensaernïaeth wedi rhyfel Abertawe bob amser wedi ysbrydoli gwaith Catrin fel artist ac archifydd wrth iddi dynnu sylw at yr amgylchedd adeiledig o’i chwmpas drwy waith collage, teithiau cerdded a hanesion llafar.
Bydd y daith gerdded hon yn tynnu sylw at y modd yr ailadeiladwyd canol tref Abertawe ar ôl iddo gael ei fomio, hyd at y 1950au cynnar i ddechrau’r 1980au ac i’r penseiri a’r arddulliau dan sylw sy’n gwneud Abertawe mor unigryw.
Wrth i chi edmygu moderniaeth, briwtaliaeth, adeiladau dinesig, gosodiadau a ffitiadau, gallwch gwblhau hanes canol tref Abertawe a gofyn y cwestiwn ‘Ydy e’n gweithio ar gyfer bywyd yn yr 21ain ganrif?’
Mae’r digwyddiad yn rhan o raglen o weithgareddau i ddathlu arddangosfa Out of this World Heather Phillipson.
Am ddim, rhaid cadw lle.
Ffoniwch 01792 516900 neu cadwch le ar-lein
CADWCH LLE NAWR
https://www.glynnvivian.co.uk/cadwch-lle-nawr-taith-gerdded-abertawe-fodernaidd/
Mae Heather Phillipson: Out of this World yn gomisiwn gan Gronfa Etifeddiaeth 14-18 NOW IWM trwy bartneriaeth ag Oriel Gelf Glynn Vivian.
Cysylltwch â’r oriel i gael yr holl wybodaeth am fynediad.
Cysylltwch cyn y gweithdy os oes gennych anghenion mynediad penodol.
Ffôn: 01792 516900
E-bost: glynn.vivian.gallery@abertawe.gov.uk
I ddarllen datganiad mynediad yr Oriel cliciwch yma
Categories