Dydd Iau 14 Rhagfyr 2023
1:00 pm - 3:00 pm
Ymunwch â chynhyrchydd ymgysylltu Artes Mundi 10, Amy Treharne, ar y daith disgrifiad clywedol arbennig hon o osodwaith enwebai Artes Mundi, Nguyễn Trinh Thi’s And They Die a Natural Death (2022)
Mae Nguyễn Trinh Thi yn wneuthurwr ffilmiau ac yn artist o Hanoi, y mae ei gwaith yn croesi’r ffiniau rhwng ffilm a chelf fideo, gosodwaith a pherfformiad. Mae ei hymarfer presennol yn canolbwyntio ar bŵer sain a gwrando, a’r amryfal berthnasoedd rhwng delwedd, sain a lle. Mae ei gwaith yn archwilio hanes, atgof, cynrychiolaeth, ecoleg a’r anhysbys.
Mae’r daith hon, sydd wedi’i llunio’n arbennig i bobl â nam ar y golwg, yn rhoi mewnwelediad i chi ar ymarfer yr artist ac yn darparu delwedd feddyliol bwerus a fydd yn taflu goleuni ar y gwaith a’r syniadau a geir ynddo.
Bydd disgrifiadau clywedol ar gael i wrando arnynt ar ôl y digwyddiadau yn artesmundi.org
Am ddim
Rhaid cadw lle. Mae lleoedd yn brin. Ffoniwch 01792 516900 neu cadwch le ar-lein
CADWCH LLE NAWR
Cysylltwch â’r oriel i gael yr holl wybodaeth am fynediad.
Cysylltwch cyn y gweithdy os oes gennych anghenion mynediad penodol.
Ffôn: 01792 516900
E-bost: glynn.vivian.gallery@swansea.gov.uk
I ddarllen datganiad mynediad yr Oriel cliciwch yma
Categorïau