Dydd Iau 17 Mawrth 2022
5:00 pm - 8:30 pm
Sgwrs Artist: Ymunwch â Fern Thomas yn sgwrsio â’r anthropolegwr a’r awdur llên gwerin, Amy Hale, a’r artist Fern Smith.
Cynhelir y sgwrs hwn yn fyw ar Zoom.
Cofrestrwch yma: https://us06web.zoom.us/j/89078709880?pwd=ZEU4TmF5b2VlTnlJVmV0TFdHaWR4QT09
Am ddim i gymryd rhan ynddo ar-lein Does dim angen talu.
Mae Dr Amy Hale yn anthropolegydd ac yn astudiwr llên-gwerin sy’n ysgrifennu am hanes dirgel, celf a menywod a diwylliant.
Mae ei bywgraffiad o Ithell Colquhoun, Genius of the Fern Loved Gully, ar gael o wasg Strange Attractor, ac mae hefyd yn olygydd Essays on Women in Western Esotericism: Beyond Seeresses and Sea Priestesses (Palgrave Macmillan). Gellir dod o hyd ddarnau ysgrifenedig eraill ar ei gwefan Medium https://medium.com/@amyhale93 a’i gwefan www.amyhale.me.
Mae Fern Smith yn artist, yn hwylusydd ac yn dywysydd diffeithwch, a hyfforddodd yn School of Lost Borders yng Nghaliffornia.
Roedd yn Gymrawd ar gyfer Cymru ar Raglen Arweinyddiaeth Clore yn 2009/10 a derbyniodd Wobr Cymru Greadigol gan Gyngor Celfyddydau Cymru yn 2016/17. Mae hi wedi hyfforddi ac mae ganddi brofiad mewn amrywiaeth o ddulliau hwyluso. Mae ganddi gefndir fel ymarferydd theatr a chyd-sylfaenydd Theatr Volcano. Datblygodd Emergence yn 2010, gan greu lleoedd ar gyfer trawsnewid, cysylltu â natur a deialog. Mae hi’n aelod cyswllt o Sefydliad Annwn ac yn therapydd creuansacrol cofrestredig gyda Therapi Creuansacrol Cymru, yn weinydd ac yn hyfforddwr Dynamig Perthynol..
Categorïau