Dydd Gwener 22 Gorffennaf 2022 - Dydd Sul 4 Medi 2022
10:00 am - 5:00 pm
Rydym yn falch iawn o gyflwyno gwaith Shiraz Bayjoo (a aned yn Mauritius, 1979) a Brook Andrew (a aned yn Sydney, Awstralia, 1970).
Bydd yr arddangosfa’n cynnwys fideos, paentiadau, ffotograffiaeth, deunyddiau archifau a deunyddiau o gasgliad parhaol yr oriel.
Ystafell 3
Glynn Vivian gyda’r Hwyr/Parti Agoriadol 21 Gorffennaf 5.30pm – 8.30pm
Mae arfer Shiraz Bayjoo yn archwilio etifeddiaeth gwladychiaeth ar draws ardal Cefnfor India, yn ogystal â’i hanes cymhleth o gaethwasiaeth, mudo a goresgyniad, gan ddefnyddio amrywiaeth o gyfryngau megis fideos, paentiadau a ffotograffiaeth. Mae ei arfer sy’n seiliedig ar ymchwil yn cael ei lywio’n aml gan archwiliadau manwl i etifeddiaeth ymerodraethau a gwladychiaeth.
Mae ei osodiad ar raddfa fawr, Searching for Libertalia, yn cynnwys tri naratif hanesyddol am ynys Madagasgar: ei hanes môr-ladrata gyda hanes Capten Misson, y fasnach gaethweision ar ran y French East India Company rhwng y 17eg a’r 19eg ganrif a’r frwydr Falagasaidd dros annibyniaeth o lywodraeth Vichy Ffrainc yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Mae Searching for Libertalia hefyd yn tanlinellu hanes mudiadau rhyddid a gwrthwladychiaeth mewn ôl-drefedigaethau Affricanaidd, yn ogystal â’u perthynas â materion hil a hunaniaeth gyfoes.
Mae gwaith Bayjoo, archif ffugiol o hanes a naratif, yn gweithredu fel sail ar gyfer trafod materion mwy cyfoes. Mae Bayjoo yn archwilio deinameg ôl-annibyniaeth ac yn meddwl tybed beth ddigwyddodd i’r lleoedd yr oedd yn rhaid iddynt ailadeiladu eu hunain o’r hyn a adawyd gan yr ymerodraeth.
Rhoddodd Glynn Vivian gymorth i Bayjoo wrth ysgrifennu’r sgript ar gyfer, Searching for Libertalia, fel rhan o brosiect artist preswyl yn 2018 ac fe’i comisiynwyd yn wreiddiol gan Nottingham New Art Exchange.
Mae Bayjoo wedi cydweithio â Brook Andrew’n flaenorol fel rhan o 21ain Biennale Sydney yn 2018. Mae’r ffordd y mae Andrew yn adeiladu ac yn gwyrdroi naratif i amlygu naratifau nad ydynt yn aml yn amlwg, yn enwedig mewn cyd-destun Awstralaidd, wedi gwneud argraff sylweddol ar Bayjoo, wrth iddo feddwl am sut i ddefnyddio iaith yn Searching for Libertalia. Ysbrydolwyd yr arddangosfa a’r sgwrs hon gan y cysylltiadau hyn. Mae gwaith y ddau artist yn dod â themâu gwladychiaeth, globaleiddio, hanes coll a mudo ynghyd, ac mae’r defnydd o ddeunyddiau archifol yn sail i arferion y ddau artist – mae’r ddau ohonynt yn defnyddio’r deunyddiau hyn i ailfframio ac ailadrodd straeon o’r gorffennol sy’n berthnasol yn awr, yn enwedig mewn perthynas â hanes a naratifau trefedigaethol.
Mae SMASH IT gan Brook Andrew yn tynnu sylw at ddigwyddiadau’r gorffennol a ddigwyddodd mewn lleoedd a chyfnodau amrywiol, ac sy’n cysylltu hanes trawmatig Awstralia â phrofiadau a thrafodaethau rhyngwladol.
Mae’r gwaith fideo’n cynnwys cyfweliadau, fideos a gafwyd, cronicladau, fideos gweithredwyr, ffotograffau ethnograffig, cardiau post a deunyddiau diwylliannol eraill sy’n dod o gasgliad personol yr artist a chasgliadau’r Sefydliad Smithsonian, Washington DC. Mae delweddau, sain a thestun yn gorgyffwrdd gan ddatgelu ac ymddatrys y perthnasoedd pŵer rhwng y gwladychwr a’r rheini a wladychwyd, y gweladwy a’r anweladwy.
Mae darnau o gyfres o gyfweliadau a gynhaliodd yr artist gydag arweinwyr y Cenhedloedd Cyntaf, Marcia Lanton, Wesley Enoch, Lyndon Ormod-Parker a Maxine Briggs am brotocolau diwylliannol yn ymddangos ochr yn ochr â henebion trefedigaethol sydd wedi’u dinistrio neu eu difetha a synau’r gwrthdystwyr sy’n mynnu sylw trwy weiddi, areithio a siantio.
Yn ystod y fideo, gweler gwaith celf cynharach Andrew, The Pledge, a fersiwn ddiwygiedig o’r melodrama Jedda, sef y ffilm gyntaf yn Awstralia lle defnyddiwyd actorion brodorol fel prif gymeriadau a’r ffilm gyntaf i gael ei ffilmio mewn lliw.
Drwy ailddangos y ffilm gydag isdeitlau newydd, mae Andrew yn ailysgrifennu stori serch y ffilm wreiddiol i fod yn naratif ffuglen wyddonol i adlewyrchu trais a hil-laddiad trefedigaethol. Drwy orffen gyda’r gair Wiradjuri ‘NGAAY’, sy’n golygu ‘gweld’, mae SMASH IT yn cysylltu’r archifau trefedigaethol â’r presennol ac yn gwahodd gwylwyr i brofi’r delweddau hyn o’r newydd ac ailddychmygu etifeddiaeth wahanol.
Dyma’r gyntaf mewn cyfres o arddangosfeydd, Sgyrsiau rhwng artistiaid, sy’n dod â dau artist ynghyd y mae eu gwaith yn berthnasol i’w gilydd oherwydd y deunyddiau neu’r themâu a ddefnyddir a thrwy gyfeillgarwch. Bydd yr arddangosfeydd hyn yn cysylltu â’n casgliad ehangach ‘Sgyrsiau â’r Casgliad‘ lle gwahoddir artistiaid, curadwyr, cymunedau a haneswyr i weithio gyda chasgliad parhaol yr oriel mewn ffyrdd sy’n ein helpu i ailasesu ei werth a pha mor ddefnyddiol ydyw yn y gymdeithas gyfoes, wrth adrodd straeon ac wrth ddechrau sgyrsiau newydd.
Artist amlddisgyblaethol cyfoes yw Shiraz Bayjoo, sy’n gweithio gyda ffilmiau, paentiadau, ffotograffiaeth, perfformiadau a gosodiadau.
Mae ei waith sy’n seiliedig ar ymchwil yn canolbwyntio ar archifau personol a chyhoeddus sy’n mynd i’r afael â chof diwylliannol a chenedligrwydd ôl-drefedigaethol mewn modd sy’n herio’r naratifau diwylliannol cryfaf. Mae gwaith Bayjoo wedi cael ei arddangos yn Sefydliad y Celfyddydau Gweledol Rhyngwladol, Llundain; New Art Exchange, Nottingham; 5ed Uwchgynhadledd celf Dhaka; 14eg Biennale Sharjah; 13eg Biennale Dakar; 21ain Biennale Sydney. Mae Bayjoo’n dderbynnydd cymrodoriaeth Gasworks Cyngor Celfyddydau Lloegr. Bu’n artist preswyl yn Delfina Foundation yn 2021 ac enillodd Gymrodoriaeth Ymchwil Artist y Smithsonian. Yn 2022, cyflwynodd Bayjoo arddangosfa unigol yn y Diaspora Pavillion ar gyfer 59fed Biennale Fenis ac fe’i gwahoddwyd i 13eg cyfarfod Bamako Encounters. Mae wedi creu gwaith sy’n benodol i’r cyd-destun am ei famwlad, Mauritius, sef lleoliad â chymysgedd Affro-Asiaidd, yn ogystal â‘r Deyrnas Unedig, lle y’i magwyd.
Daw carennydd mamlinachol Brook Andrew o kalar midday (gwlad y tair afon) y Wiradjuri, a’r Ngunnawal yn llinach tad ei fam, dwy genedl gynfrodorol yn Awstralia, ac mae ganddo gefndir Celtaidd ar ochr ei dad.
Mae’n artist ac yn ysgolhaig a ysgogir gan naratifau sy’n ymblethu, ac sy’n aml yn dod allan o lanast y “Colonial Hole”. Bu’n gyfarwyddwr artistig “NIRIN”, 22ain Biennale Sydney, 2020. Ar wahân i arferion artistig Brook, mae ei brosiectau cyfredol eraill yn cynnwys: cyd-guradu We Are Not All Just Human After All: Care, Repair, Healing y disgwylir iddi agor ym mis Medi 2022 yn Martin-Gropius-Bau, Berlin; Ymgynghorydd rhyngwladol i’r Nordic Pavillion sy’n cael ei newid yn Sámi Pavilion yn ystod 59eg Arddangosfa Gelf Ryngwladol La Biennale di Venezia 2022; ymchwilydd cysylltiol, Amgueddfa Pitt Rivers, Rhydychen, y DU; ARC (grant Cyngor Ymchwil Awstralia) gyda’r Athro Brian Martin: Menter Ymchwil Arbennig ARC ar gyfer Cymdeithas, Hanes a Diwylliant Awstralia: ‘More than a guulany (tree): Aboriginal knowledge systems’.
Mae Brook Andrew yn Ddarlithydd Cyswllt Celfyddyd Gain ym Mhrifysgol Monash; yn Athro Menter Arfer Rhyngddisgyblaethol, Prifysgol Melbourne; ac yn Ymgeisydd DPhil yn Ysgol Gelf Ruskin, Prifysgol Rhydychen. Mae’n Ymchwilydd Cysylltiol yn Amgueddfa Pitt Rivers, Rhydychen; yn Gymrawd Hŷn Anrhydeddus, Uned Astudiaethau Brodorol ac Ysgol Boblogaeth ac Iechyd Byd-eang, Prifysgol Melbourne; ac yn Ymchwilydd Cysylltiol yn labordy ymchwil Wominjeka Djeembana yn MADA, Prifysgol Monash.
Categorïau