Dydd Mawrth 17 Rhagfyr 2024
2:00 pm - 4:00 pm
Grŵp a arweinir gan gyfranogwyr ac a gefnogir gan Oriel Gelf Glynn Vivian yw Sgyrsiau Cyfoes.
Mae Sgyrsiau Cyfoes yn cwrdd yn yr oriel ddwywaith y mis i drafod syniadau a themâu o arddangosfeydd celf yn yr oriel yn ogystal â mudiadau celf hanesyddol o ardaloedd pellach.
Er bod y grŵp wedi’i leoli yn Oriel Gelf Glynn Vivian, weithiau mae’r grŵp yn teithio oddi ar y safle i leoliadau diwylliannol eraill a stiwdios artistiaid.
Os oes gennych ddiddordeb mewn trafod celf gyfoes a chwrdd â phobl newydd mewn sesiwn hamddenol a chyfeillgar, e-bostiwch Richard.Monahan@abertawe.gov.uk i gael rhagor o wybodaeth, neu ffoniwch yr oriel ar 01792 516900.
Categorïau