Dydd Mawrth 3 Rhagfyr 2019
1:00 pm - 3:00 pm
Caiff y grŵp Sgyrsiau Cyfoes ei arwain gan gyfranogwyr a’i gefnogi gan Oriel Gelf Glynn Vivian.
Mae’r grŵp yn cwrdd dwywaith y mis i drafod syniadau a themâu arddangosfeydd celf presennol a diweddar. Mae hefyd yn cynnal rhaglen o ffilmiau a rhaglenni dogfen am artistiaid. Mae’r grŵp yn yr oriel fel arfer, ond bydd yn aml yn teithio oddi ar y safle i leoliadau diwylliannol a stiwdios celf eraill.
Os oes gennych ddiddordeb yn y ddadl gelf gyfoes a chwrdd â phobl newydd mewn amgylchedd hamddenol a chyfeillgar, e-bostiwch Richard.Monahan@abertawe.gov.uk
Am ddim, cyfraniad awgrymiadol £3
Oriel Gelf Glynn Vivian
Alexandra Road, Swansea, SA1 5DZ
map
Categorïau