Dydd Gwener 27 Medi 2024
12:30 pm - 1:30 pm
Dirgryniadau ar draws bydoedd: atmosfferau sonig yn arddangosfa Out of this World Heather Phillipson
Beth mae’n ei olygu i feddwl am atmosffer fel cyfrwng? Yn ystod y sgwrs hon bydd Dr Philippa Lovatt yn archwilio rhinweddau atmosfferig a dirgrynol gosodiad Out of this World Heather Phillipson, a rôl sain wrth gyfleu ffenomenau byrhoedlog ac anfaterol, wrth nodi cysylltiadau â gwaith Margaret Watts Hughes drwy eu diddordeb cyffredin mewn dirgryniadau.
Gan ymateb i ddisgrifiad Phillipson o Out of this World fel “niwl gweledol ac acwstig”, bydd y sgwrs yn trafod ymagweddau gwahanol at ‘gyfryngau elfennol’ er mwyn ystyried y perthynas rhwng profiadau o ffenomenau materol ac anfaterol, ar draws bydoedd dynol a bydoedd sy’n fwy na dynol. Gan symud o gymariaethau byr ag artistiaid eraill sydd wedi defnyddio niwl er mwyn cyfleu gorgyffyrddiad â hanes gwleidyddol, milwrol ac amgylcheddol yn Japan a Gwlad Thai, fel Nakaya Fujiko ac Apichatpong Weerasethakul, i archwiliad Sung Tieu o effeithiau seicolegol rhyfela sonig yn Fietnam a Chiwba, mae Lovatt yn gofyn y cwestiwn canlynol: sut y mae’r sgalar newid sonig yn cofnodi newid, o’r agos a’r ymgorfforedig, i’r atmosfferig a’r hinsoddol?
Mae Dr Philippa Lovatt yn ddarlithydd Astudiaethau Ffilm ym Mhrifysgol St Andrews lle mae’n ymchwilio ac yn addysgu sain ffilmiau, ecosinema a delwedd symudol artist. Ar hyn o bryd mae hi’n gweithio ar lyfr am sain a hanes amgylcheddol o’r enw Reverberant Histories: expanded listening in artists’ film in Southeast Asia.
Mae’r digwyddiad yn rhan o raglen o weithgareddau i ddathlu arddangosfa Out of this World Heather Phillipson.
Am ddim, rhaid cadw lle.
Ffoniwch 01792 516900 neu cadwch le ar-lein
CADWCH LLE NAWR
Cadwch lle nawr – Sgwrs Out of this World: Dr Philippa Lovatt
Mae Heather Phillipson: Out of this World yn gomisiwn gan Gronfa Etifeddiaeth 14-18 NOW IWM trwy bartneriaeth ag Oriel Gelf Glynn Vivian.
Cysylltwch â’r oriel i gael yr holl wybodaeth am fynediad.
Cysylltwch cyn y gweithdy os oes gennych anghenion mynediad penodol.
Ffôn: 01792 516900
E-bost: glynn.vivian.gallery@abertawe.gov.uk
I ddarllen datganiad mynediad yr Oriel cliciwch yma
Categorïau