Dydd Gwener 8 Tachwedd 2024
12:30 pm - 1:30 pm
Byd o ddirgelwch: bywyd Margaret Watts Hughes (cynhelir y sgwrs yn Saesneg)
Ymunwch â ni ar gyfer y sgwrs am ddim hwn gyda Chris Parry!
Ni fydd enw Margaret Watts Hughes yn gyfarwydd i nifer ohonoch, ond, yn sicr, dylai’r enw fod yn un cyfarwydd iawn. Ganwyd y gantores, a ddaeth i’r amlwg pan oedd hi’n blentyn, yn Nowlais, a daeth yn adnabyddus ar draws y wlad am ei llais. Cafodd ei swyno gan sain, ac roedd hi’n arbrofi gyda sain a dyfeisiodd ffordd o wneud y llais dynol yn weladwy. Iddi hi, roedd byd anweladwy llawn dirgel yr oedd sain yn ei amlygu, ac roedd hi ar flaen y gad o ran datgelu’r byd hwnnw.
Mae detholiad o gasgliad Voice Figures Margaret Watts Hughes, a ddewiswyd gan Heather, yn cael ei arddangos yn Ystafell 8 o gasgliad Amgueddfa ac Oriel Gelf Castell Cyfarthfa fel rhan o’r Arddangosfa Out of this World.
Mae’r digwyddiad yn rhan o raglen o weithgareddau i ddathlu arddangosfa Out of this World Heather Phillipson.
Am ddim, rhaid cadw lle.
Ffoniwch 01792 516900 neu cadwch le ar-lein
Heather Phillipson: Out of this World. Comisiwn Cronfa Waddol ‘IWM 14-18 NOW’ mewn partneriaeth ag Oriel Gelf Glyn Vivian.
Cysylltwch â’r oriel i gael yr holl wybodaeth am fynediad.
Cysylltwch cyn y gweithdy os oes gennych anghenion mynediad penodol.
Ffôn: 01792 516900
E-bost: glynn.vivian.gallery@abertawe.gov.uk
I ddarllen datganiad mynediad yr Oriel cliciwch yma
Categorïau