Dydd Mercher 9 Chwefror 2022
7:00 pm - 8:30 pm
Rhwng y byd cudd a gweladwy
Sgwrs gyda Jacqui McIntosh a Gilly Fox
Rhwng y byd cudd a gweladwy
Bydd Gilly McIntosh, Curadur Cynorthwyol Hayward Gallery Touring a Chanolfan Southbank yn cael sgwrs â Jacqui McIntosh, awdur, Curadur a Rheolwr Arddongosfeydd yn Drawing Room, i drafod arddangosfa bresennol y Glynn Vivian, Not Without My Ghosts – Artist As Medium.
Mae arddangosfa Hayward Gallery Touring, mewn partneriaeth â Drawing Room, yn cynnwys tua 50 o arddangosion fel paentiadau, gwaith ar bapur, gosodiadau, fideo ac animeiddiad, sy’n amrywio o ddiwedd y 19eg ganrif hyd heddiw, ac sy’n edrych ar sut mae artistiaid wedi ymwneud â seansau, sianelu, ysgrifennu awtomatig ac ymchwiliadau goruwchnaturiol eraill.
Byddant yn trafod dechrau a datblygiad yr arddangosfa, y cydweithio rhwng Drawing Room a Hayward Gallery Touring a gweithiau ac artistiaid allweddol o’r arddangosfa.
Mae’r arddangosfa ar gael i’w gweld tan ddydd Sul 13 Mawrth 2022.
I ymuno â’r cyfarfod Zoom, cliciwch y ddolen isod
https://us02web.zoom.us/j/85738129334?pwd=RGMvQ2NPb3hhWERNelNwd1ViUEYydz09
Image: Ann Churchill, Blue Oval Drawing, 1975. Courtesy the artist. Image credit: David Bebber
Awdur a churadur yw Jacqui McIntosh sy’n byw yn Llundain.
Mae’n Rheolwr Arddangosfeydd yn Drawing Room lle mae’n cyfrannu at y dealltwriaeth o gyfrwng arlunio trwy ymchwil, curadu arddangosfeydd, ysgrifennu, rheoli arddangosfeydd a threfnu digwyddiadau. Ers 2012 mae hi wedi rheoli’r gwaith o gyflwyno 35 o arddangosfeydd yn Drawing Room ac mae ganddi arbenigedd ym maes gofalu am ddarluniau hanesyddol a chyfoes yn ei ddehongliad ehangach a’u harddangos.
Mae hi wedi curadu’n annibynnol ac yn ei rôl bresennol, gan gynnwys Drawn Out (2021), Modern Nature (2019), From the Inside Out (2018) yn Drawing Room; Figure It Out, Tannery Projects (2017) a See Think Different, prosiect ar y cyd rhwng Drawing Room a chwmni cyfryngau’r byd UBM (2012-2015)
Mae gan Jacqui ddiddordeb arbennig mewn artistiaid y mae eu datblygiad ysbrydol wedi esblygu ar y cyd â’u cynnyrch artistig. Mae meysydd ymchwil cyfredol yn cynnwys arferion arlunio cyfryngiaethol ac awtomatig a dylanwad damcaniaethau ocwlt mewn celf hanesyddol a chyfoes.
Mae hi wedi ysgrifennu’n helaeth ers 2003 ac mae’n aelod o AICA.
Curadur yw Gillian Fox sy’n byw yn Llundain, y DU.
Cafodd ei hyfforddi mewn arfer Celfyddyd Gain a Ffilmiau Hanes Artistiaid a bu’n Guradur Cynorthwyol yn Hayward Gallery Touring ers 2013.
Cyn hynny, curadodd gyfres ryngwladol o ddigwyddiadau cyfryngau celf byw a rhai sy’n seiliedig ar amser a lwyfannwyd mewn lleoliadau amgen yn Llundain, Efrog Newydd a Lisboa (Lisbon), bu’n Drefnydd Arddangosfeydd ar gyfer rhaglen deithio ryngwladol Sefydliad Aperture ac yn 2016-17 bu’n rhaglennydd celf weledol ar gyfer ‘Nordic Matters’.
Yn 2017 curadodd ‘Pavilion of Humanity’, digwyddiad i gyd-fynd â Biannale Fenis. Mae’n darlithio ar gelfyddyd gain, curadu a chyrsiau ffotograffiaeth ar draws y DU. Yn 2016, dewiswyd Gillian ar gyfer rhaglen Clore Leadership a lansiodd ei hymgynghoriaeth gelf annibynnol, gan gynghori cleientiaid ar gomisiynu artistiaid a gwaith ar gyfer amgylchedd adeiledig.
Yn 2020, curadodd sioe unigol gyntaf yr artist Norwyaidd Vanessa Baird yn y DU, a agorodd yn Llyfrgell Menywod Glasgow a Drawing Room, Llundain.
Categorïau