Dydd Sadwrn 20 Ebrill 2024
1:30 pm - 2:30 pm
Pete Davis – ‘arsylwadau – casgliadau – atgofion’ – oes ym myd ffotograffiaeth
A Friends of the Glynn Vivian artist talk
Bydd y sgwrs hon gan Gyfeillion y Glynn Vivian yn olrhain gwaith dogfennol Pete Davis o brosiectau cynnar i lawer o’i arddangosfeydd mawr a’i gyhoeddiadau, gan gynnwys gwaith sydd ar y gweill ar hyn o bryd.
Gellir gweld ffotograffiaeth ddogfennol Dr Pete Davis mewn llawer o gasgliadau celf cenedlaethol a rhyngwladol pwysig gan gynnwys Cyngor Celfyddydau Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Museo Genna Maria, Sardinia, Oriel Gelf Glynn Vivian ac Amgueddfa Victoria and Albert, Llundain.
Mae Pete wedi bod yn tynnu lluniau ers ei fod yn 11 oed. Ar ôl deng mlynedd fel ffotograffydd hysbysebu a ffasiwn, symudodd i orllewin Cymru lle dechreuodd ar lawer o deithiau maes o gwmpas Ynysoedd Prydain, Ewrop ac UDA. Mae wedi cynrychioli Cymru ddwywaith yng ngŵyl Interceltique, Lorient, Llydaw, ac mae’n gyn-enillydd Gwobr Wakelin.
Bu Pete hefyd yn gwasanaethu fel cadeirydd cenedlaethol Cymdeithas Artistiaid a Dylunwyr Cymru, fel ysgrifennydd Visual Artists Rights Society a bu ar gyngor reoli Fotogallery, Caerdydd. Roedd Pete yn uwch-ddarlithydd mewn Ffotograffiaeth Ddogfennol ym Mhrifysgol Cymru, Casnewydd am ddeunaw mlynedd a bu’n arweinydd y cwrs am naw mlynedd. Dyfarnwyd cymhwyster Doethur mewn Athroniaeth (PhD) iddo mewn Celfyddyd Gain ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 2009 ac mae’n parhau i ddysgu – fel goruchwylydd PhD ym Mhrifysgol Aberystwyth ac mae’n gweithio ar nifer o brosiectau a chyhoeddiadau.
Ewch i wefan Freinds am ragor o wybodaeth
Ymunwch â Chyfeillion y Glynn Vivian
Categorïau