Dydd Mercher 16 Hydref 2019
1:00 pm - 2:00 pm
Mae’r digwyddiad hwn am ddim.
Ymunwch ag Anne Buddle, Pennaeth Rheolaeth Casgliadau yn Orielau Cenedlaethol yr Alban, wrth iddi archwilio bywyd a theithiau’r Arglwyddes Henrietta Clive yn Tipu, yr India ym 1800.
Cyrhaeddodd Edward a Henrietta Clive yr India ym 1798, ar benodiad yr Arglwydd Clive yn Llywodraethwr Cyffredinol Llywyddiaeth Madras. Roedd Tipu Sultan, Teigr Mysore a Brawychwr Stryd Leadenhall (pencadlys East India Company yn Llundain), yn fygythiad uniongyrchol i fuddiannau Prydeinig. Ynghyd â’i dad, Haidar Ali, roedd Tipu wedi herio Prydain mewn tri rhyfel Mysore. Gorchfygwyd Tipu’n derfynol ym mis Mai 1799, pan laddwyd ef wrth amddiffyn Seringapatam ym mhrifddinas ei ynys ar yr afon Kavari. O ganlyniad i hyn, ailorseddwyd y plentyn, Hindu Rajah, yn Mysore, cyfnerthwyd pŵer Prydain yn Ne’r India a gwireddwyd gweledigaeth yr Arglwydd Morlington o urddo ymerodraeth a wireddwyd.
Ym 1800, penderfynodd Henrietta fynd i weld trefi, caerau, palasau a phobl teyrnas Mysore Tipu drosti hi ei hun, a theithiodd Dde’r India gyda’i dwy ferch a’u llywodraethes am gyfnod o saith mis. Mae teithiadur Henrietta a dyddiadur Charlotte, y plentyn 12 oed, wedi’u darlunio â dyfrlliwiau Anna Tonelli, ac yn cofnodi eu profiadau, gan gynnwys eu taith wrth groesi’r afon Kavari; cwrdd â meibion Tipu, pacio coed ifanc i’w hanfon yn ôl at Edward eu tad, a’i ardd ym Madras; cwrdd â Nawab Arcot; mynd i ddawns Indiaidd; a thymheredd o 94°F yn eu pebyll gyda’r nos.
Mae’r cofnodion hyn yn cynnig cyd-destun bywiog a phersonol i’r casgliad unigryw o wrthrychau Indiaidd a geir yng Nghastell Powis, a gasglwyd ac a feddiannwyd gan yr Arglwydd Clive 1af a’r 2il Arglwydd Clive pan oedd isgyfandir India yn gymysgedd anghytûn o gannoedd o daleithiau annibynnol, tywysogaidd, gyda phwerau Ewropeaidd cystadleuol, oedd yn ehangu ymhell y tu hwnt i’w gorsafoedd masnachu arfordirol. Mae geiriau a dyfrlliwiau pedair o fenywod yn Mysore Tipu ym 1800 yn cynnig safbwynt amgen argyhoeddiadol i gyhuddiadau poblogaidd yr 21ain ganrif o ysbail, hiliaeth a haerllugrwydd. Yn hytrach, mae’r pedwarawd Mysore hwn yn siarad mwy am William Jones, y Cymro a ddatgelodd gymaint o orffennol India a’i gwneud yn hygyrch i bawb.
Rhaid cadw lle www.ticketsource.co.uk/glynnvivian
Am ddim, cyfraniad awgrymiadol £3
Oriel Gelf Glynn Vivian
Alexandra Road, Swansea, SA1 5DZ
map
Categorïau