Dydd Iau 3 Awst 2023
11:00 am - 2:00 pm
Gweithdai ‘Rwy’n Gallu…’ i’r teulu, am ddim ac yn addas i bob oedran.
Bob dydd Mawrth a dydd Iau drwy gydol mis Awst, 11.00am i 2.00pm
Y gwyliau haf yma, dewch i roi cynnig ar amrywiaeth eang o ddeunyddiau a thechnegau a fydd yn sicr o wneud i chi deimlo’n hyderus wrth ddweud ‘Rwy’n gallu…!’
Rwy’n gallu Paentio…Fy Nychymyg
03.08.23
11:00-14:00
Gan ddefnyddio technegau paentio cyffrous, gallwch groesawu’r anhysbys a gadael i’ch dychymyg eich arwain wrth greu celfweithiau gwych.
Darperir yr holl ddeunyddiau. Awgrymir i chi wisgo hen ddillad!
Mae croeso i bobl o bob oedran.
Mae’n rhaid i blant dan 10 oed fod yng nghwmni oedolyn.
Am ddim, Rhodd o £3 yn ddewisol
Gallwch ddweud wrthym eich bod yn bwriadu dod drwy archebu ar-lein, fodd bynnag, nid yw archebu ymlaen llaw yn hanfodol a gallwch ddod ar y diwrnod.
Os byddwch yn dod i weithdy neu ddigwyddiad, gofynnwn i chi gofrestru gyda ni drwy ddefnyddio ein system docynnau, naill ai cyn neu pan fyddwch yn ymweld, i’n helpu i ddysgu mwy am y bobl sy’n dod i’r Oriel.
Bydd yr wybodaeth rydych yn ei darparu’n ein helpu i gofnodi’r niferoedd sy’n dod i’n gweithdai fel y gallwn gasglu data a gweld pa mor dda rydym yn ei wneud.
Caiff unrhyw beth rydych yn ei ddweud wrthym ei gadw’n gyfrinachol, bydd yn ddi-enw ac fe’i defnyddir at ddibenion ymchwil yn unig. Bydd yr wybodaeth rydych yn ei darparu’n cael ei dal gan Gyngor Abertawe.
Ffoniwch 01792 516900 neu cadwch le ar-lein
CADWCH LLE NAWR
Categorïau