Dydd Mercher 21 Awst 2024
10:30 am - 3:30 pm
Dewch i roi cynnig ar amrywiaeth eang o ddeunyddiau a thechnegau a fydd yn sicr o wneud i chi deimlo’n hyderus wrth ddweud ‘Rwy’n gallu…!’
Bob dydd Mercher a dydd Iau drwy gydol gwyliau’r ysgol.
Cynhelir gweithdai tawel bob dydd Iau. Mae’r rhain yn sesiynau ar gyfer plant a theuluoedd ag anghenion synhwyraidd, y mae angen dosbarthiadau llai ac amgylchedd dysgu tawelach arnyn nhw.
Mae’r digwyddiad yn rhan o raglen o weithgareddau i ddathlu arddangosfa Out of this World Heather Phillipson.
Amseroedd y Gweithdai:
Dydd Mercher, 10:30 yb -12:30 yp a 1:30 yb – 3:30 yp
Dydd Iau, 10:30 yb -12:30 yp
Rwy’n gallu creu collage – Abertawe Swrrealaidd
Byddwch yn chwareus gyda gwaith collage a chrëwch ddinasweddau hynod a rhyfeddol.
Yn addas i blant 3+ oed Darperir yr holl ddeunyddiau.
Mae’n rhaid i blant dan 10 oed fod yng nghwmni oedolyn.
Am ddim, rhaid cadw lle.
Ffoniwch 01792 516900 neu cadwch le ar-lein
CADWCH LLE NAWR
Mae Heather Phillipson: Out of this World yn gomisiwn gan Gronfa Etifeddiaeth 14-18 NOW IWM trwy bartneriaeth ag Oriel Gelf Glynn Vivian.
Cysylltwch â’r oriel i gael yr holl wybodaeth am fynediad.
Cysylltwch cyn y gweithdy os oes gennych anghenion mynediad penodol.
Ffôn: 01792 516900
E-bost: glynn.vivian.gallery@abertawe.gov.uk
I ddarllen datganiad mynediad yr Oriel cliciwch yma
Categorïau