Dydd Sadwrn 2 Mai 2020 - Dydd Sul 6 Rhagfyr 2020
11:00 am - 3:30 pm
Mae Pansy yn waith comisiwn cydweithredol newydd rhwng Catrin Webster a Roy Efrat.
Mae’n cynnwys pedwar darn newydd o waith, sy’n cynnwys paentiad olew a thafluniad fideo, ac mae’n archwilio’r syniad o ystyron cymhleth y gair ‘Pansy’.
Fe’u hysbrydolwyd gan nofel Franz Kafka ym 1926, The Castle, lle mae’r prif gymeriad, K., yn brwydro yn erbyn awdurdod ac yn ceisio symud ei waith yn ei flaen dro ar ôl tro, rhywbeth nad ydym yn ei ddeall yn llwyr, ond nid yw byth yn symud y tu hwnt i ffiniau eirllyd y castell. Yng ngwaith Efrat a Webster, mae’r ‘Pansy’ (P) yn teithio ar draws cefndir eang sydd wedi’i baentio’n ysgafn, sydd hefyd yn ddoniol ac yn chwareus. Mae’r gwaith yn cyfeirio at hunaniaeth, rhywioldeb, rhyw ac amgyffrediad. Mae gwaith arall yn cynnwys paentiad ar raddfa sinematig, a phaentiadau/ tafluniadau fideos.
Arlunwyr yw’r ddau artist. Mae gwaith Webster yn archwilio dehongliadau cyfoes o le a’r posibilrwydd o gyfuno paentio ag ymagweddau perfformio, megis archwilio tirweddau ar gefn beic modur neu fideos trwy baentio. Mae gwaith Efrat yn ymgyfuno paentiadau a thafluniadau fideo â’i brofiadau o weithio fel dawnsiwr clasurol clodwiw rhyngwladol. Cyfarfu Webster ac Efrat yn ystod preswylfa URRA yn Buenos Aires yn 2015.
Rhaglennwyd y gyfres hon mewn partneriaeth â Pride Abertawe a Mis Hanes LGBT ac fe’i cefnogwyd yn hael gan Art Fund, Cyfeillion Oriel Glynn Vivian a Chyngor Celfyddydau Cymru.
Bydd yr arddangosfeydd hyn, sy’n cynnwys arddangosfa fideo, ffotograffiaeth, paentiadau, tafluniadau fideo a pherfformiadau, yn archwilio themâu cydberthnasol cynwysoldeb, amrywiaeth, rhyw, iaith, systemau ideolegol a gwleidyddol a newid hinsawdd.
Gwyliwch Roy Efrat a Catrin Webster yn sgwrsio ar ein sianel ar YouTube
Arddangosfeydd eraill yn y gyfres hon
Charles Atlas, The Tyranny of Consciousness
Roy Efrat
Mae Roy yn gweithio ac yn byw yn Llundain a Tel Aviv. Mae wedi arddangos ei waith mewn arddangosfeydd cenedlaethol a rhyngwladol ar ei ben ei hun ac fel rhan o grŵp, gan gynnwys; Llundain, Tel Aviv, Buenos Aires ac Enschede yn yr Iseldiroedd. Mae wedi ennill nifer o wobrau, megis dewis y rheithgor ar gyfer 19eg ŵyl celfyddydau cyfryngau Siapan a gwobr Tiffany and Co. x Outset Studiomakers 2018.
Catrin Webster
Mae Catrin Webster yn byw ac yn gweithio yn Abertawe. Bu’n astudio yn Ysgol Slade, ac yng Ngholeg Prifysgol Llundain ar lefel israddedig ac ôl-raddedig. Mae ei gwaith wedi’i gynnwys mewn darllediadau, megis ffilm ddogfen gan BBC Cymru, ac mewn arddangosfeydd grŵp ac unigol; mewn arolygon o baentio cyfoes, megis Pure Fantasy gyda Chris Offili a Glen Brown; mewn sioeau unigol yn amgueddfa celf fodern Reykjavik a Sala Uno yn Rhufain a delir rhai mewn casgliadau preifat a chyhoeddus, megis casgliad y Cyngor Prydeinig, Oriel Hayward yn Llundain ac Oriel Gelf Glynn Vivian yn Abertawe.
Categorïau