Dydd Mercher 23 Mawrth 2022 - Dydd Sul 18 Medi 2022
10:30 am - 4:00 pm
Mae’r Glynn Vivian wedi derbyn rhodd hael o ugain o gelfweithiau gan y diweddar William G Lewis (1926-2021) o Sgeti, Abertawe, a roddwyd i’r Oriel er cof am ei wraig, Jan. Treuliodd y gwerthwr tai wedi ymddeol a’i wraig y degawdau diwethaf yn cronni eu casgliad celf yn araf bach.
Ceir printiau gan John Piper (1903 – 1992) ynghyd â phaentiadau a gweithiau ar bapur gan artistiaid Cymreig adnabyddus fel Glenys Cour (g.1924), Valerie Ganz (1936–2015), a Will Roberts (1907 – 2000), ymhlith eraill.
Categorïau