Dydd Sadwrn 24 Mawrth 2018 - Dydd Sul 17 Mehefin 2018
10:00 am - 5:00 pm
Ystafell 3
Un o’r prif artistiaid ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau’r ugeinfed ganrif oedd Käthe Kollwitz (1867–1945), sy’n nodedig am bwˆer emosiynol ei darlunio, ei phrintiau a’i cherfluniau.
Roedd hi’n byw bywyd a oedd yn cael ei archwilio’n ddwys, a gafodd ei fynegi yn ei hunanbortreadau, ei dyddiaduron a’i llythyrau niferus; wrth wraidd y fodolaeth hon oedd ei gwaith fel artist a’i meistrolaeth ar gelf graffig, a enillodd fri iddi’n gyflym yn yr Almaen ac yna’n rhyngwladol wrth i’w dylanwad ledaenu ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf.
Yn yr arddangosfa hon, gellir gweld doniau artistig unigryw Kollwitz, yn ogystal â’i gallu technegol, ei deallusrwydd ac, yn bennaf oll, ei dyngarwch. Mae llawer ym mywyd a gwaith Kollwitz sy’n meithrin gobaith, gan ysbrydoli a chalonogi, er gwaethaf baich caledi a galar y bu’n rhaid iddi hi a chynifer o’i ffigyrau ei ysgwyddo. Yn aml roedd ei phwyslais ar yr hyn a oedd yn nodweddiadol am brofiad menywod, gan gynnwys natur a nerth sylfaenol cariad mamol. Roedd hi’n credu y gallai celf fod yn rym er lles ein cymdeithas.
Caiff yr arddangosfa hon ei threfnu mewn partneriaeth rhwng Ikon a’r Amgueddfa Brydeinig a’i chefnogi trwy haelioni The Dorset Foundation a darperir cyhoeddiad llawn darluniau i gyd-fynd â hi.
Oriel Gelf Glynn Vivian
Alexandra Road, Swansea, SA1 5DZ
map
Categorïau