Dydd Sadwrn 12 Rhagfyr 2020 - Dydd Sul 23 Mai 2021
11:00 am - 4:00 pm
Mewn partneriaeth â Chymrodoriaethau Creadigrwydd, Sefydliad Diwylliannol Prifysgol Abertawe
Ewch ar daith rithwir o arddangosfa Peter Matthews, Grounded.
Gwyliwch ffilm Peter Matthews ar ein sianel YouTube
Yn 2019, lansiodd Sefydliad Diwylliannol Prifysgol Abertawe’r Cymrodoriaethau Creadigrwydd cyntaf, a gynlluniwyd i roi’r cyfle i artistiaid o unrhyw ddisgyblaeth greu gwaith newydd a ysbrydolir gan ddarn o ymchwil academaidd. Dangoswyd chwe phrosiect ymchwil ar-lein a chyflwynodd dros 400 o artistiaid, ysgrifenwyr a pherfformwyr geisiadau ar gyfer y cymrodoriaethau. Enw un o’r rheini oedd Peter Matthews, artist yr oedd ei waith ardderchog a’i fethodoleg yn adlewyrchu diddordebau a phryderon astudiaeth y biolegydd môr Dr. Ruth Callaway o amgylcheddau arfordirol. Dyma ddau berson, artist a gwyddonydd, sydd wedi treulio blynyddoedd yn arsylwi, yn profi ac yn meddwl am dirweddau arfordirol.
Cyflwynodd Callaway amrediad llanw enfawr Abertawe i Matthews, sy’n datguddio rhannau mawr o wely’r môr am ychydig oriau bob dydd, a dangosodd ei hangerdd a’i hymchwil fanwl am y mwydod sy’n creu riffiau ac yn byw yno, a’r hyn y gallwn ei ddysgu ganddynt. Mae’r drafodaeth a’r cydweithio rhyngddynt wedi bod yn bwynt dechrau ar gyfer y gwaith newydd.
Meddai Callaway am y cydweithio, “Mae gweithio gyda Peter Matthews yn ystod ei gymrodoriaeth wedi fy ngorfodi i gymryd cam yn ôl ac ystyried fy ngwaith mewn ffordd wahanol. Daeth y mater o ddiben, graddfa a pherthnasedd cymdeithasol yn fwy amlwg.”
Mae ffordd arferol Matthews o weithio yn golygu bod yn y môr gyda phapur ar fwrdd arlunio pren – mae ei offer fel arfer yn cynnwys pinnau gwrth-ddŵr a deunyddiau o’r môr ei hun. Mae’r weithred berfformiadol a myfyriol hon yn golygu treulio oriau (neu ddiwrnodau hyd yn oed) yn gweithio ar ei ben ei hun yn y môr, yn symud gyda’r môr, yn arlunio a phaentio.
Mae’r gwaith newydd yn yr arddangosfa’n dangos datblygiad a chyfeiriad newydd ac amlwg yng ngwaith Matthews. Mae’r pandemig byd-eang, sydd wedi bod yn rhan o’n bywydau eleni, wedi newid llwybr y gymrodoriaeth hon. Meddai Matthews, “Cafwyd effaith fawr ar fy ymwybyddiaeth o raddfa a phellter, amser a lle yn ystod y pandemig a thrwy gydol y gymrodoriaeth, yn ogystal â fy nghysylltiad corfforol â phethau a gwrthrychau, yn enwedig o ran sut rydym yn synhwyro’r byd trwy ei gyffwrdd.”
Mae’r gwaith newydd hwn, a wnaed ym Mae Abertawe ac ar hyd arfordir yr Iwerydd yng Nghernyw, yn cynnwys cerfluniau, gwaith ar bapur a ffilm a phaentio. Claddwyd cerfluniau o dan Fae Abertawe er mwyn eu codi a’u harddangos yn yr Atriwm. Hefyd gwnaed gwaith yn uniongyrchol o glai ym Mae Abertawe. Caiff y gwaith hwn ei arddangos ynghyd â nodiadau a thrafodaethau rhwng Callaway a Matthews.
Cefnogir yr arddangosfa gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Sefydliad Pollock-Krasner.
Peter Matthews
Artist o Loegr yw Peter Matthews, sy’n gweithio ar hyd arfordiroedd yr Iwerydd a’r Môr Tawel. Mae’n gweithio ar ei ben ei hun drwy’r flwyddyn ac nid yw’n gweithio mewn stiwdio. Mae ei brofiadau o drochi ei hun mewn natur wedi bod yn rhan allweddol o’i ymagwedd a’i broses o weithio ers 2007 yn dilyn digwyddiad lle bu bron iddo farw yn y Môr Tawel ym Mecsico. Mae ei waith yn gymysgedd o waith perfformiadol ac mae ei waith amlddisgyblaeth yn cynnig mewnwelediadau, myfyrdodau, profiadau emosiynol a pherthnasoedd barddonol rhwng amser a gofod, lle a barddoniaeth, metaffiseg a dirgelwch, arsylwadau uniongyrchol, hapiau a’r hyn mae’n ei olygu i fod yn ddynol heddiw mewn tirwedd llythrennol a diwylliannol newidiol.
Caiff ei waith ei arddangos yn gyson ar draws y byd ac fe’i dangoswyd mewn arddangosfeydd yn y Drawing Center, Efrog Newydd; Amgueddfa Celfyddyd Gyfoes Gogledd Carolina; Amgueddfa Frenhinol Greenwich, Llundain; Mendes Wood DM, Sao Paulo; Oriel Gelf Walker, Lerpwl a mwy. Rhoddwyd grant i Matthews gan Sefydliad Pollock-Krasner, Efrog Newydd yn 2020.
Dr. Ruth Callaway
Ecolegydd morol ym Mhrifysgol Abertawe yw Ruth Callaway, ac mae’n cyfrannu at syniadau newydd am brosesau sylfaenol yn yr amgylchedd morol, yn ogystal â ffyrdd newydd o gymhwyso gwybodaeth wyddonol. Yn gynnar yn ei gyrfa, a heb reswm arbennig, datblygodd obsesiwn gyda thiwblyngyr sy’n creu riffiau, yn trefnu eu hamgylchedd ac yn creu gwerddonau bioamrywiol. Ysgrifennodd ei thesis PhD ar y pwnc. Ar ôl hynny dechreuodd ganolbwyntio ar bynciau mwy ymarferol a chymhwysol, a threuliodd dros 200 o ddiwrnodau’n teithio ar longau ymchwil mawr i asesu effaith pysgota masnachol ar fioamrywiaeth Môr y Gogledd. Ymchwiliodd i’r rhesymau dros farwolaethau anesboniadwy cocos mewn moryd gwarchodedig a datgelodd batrymau milodol ar wely’r môr ym Mae Abertawe i helpu cwmni ynni morol adnewyddadwy gyda’i waith cynllunio. Mae’n addysgu bioleg morol i fyfyrwyr ac yn goruchwylio myfyrwyr PhD sy’n ymchwilio i rywogaethau anfrodorol mewn porthladdoedd yng Nghymru, yn creu ynysoedd artiffisial fel cynefinoedd ac, wrth gwrs, tiwblyngyr sy’n creu riffiau. Yn y blynyddoedd diweddar, mae Ruth wedi datblygu diddordeb mewn prosiectau rhyngddisgyblaethol ac mae wedi cydweithio â ieithyddion, cyfreithwyr a daearyddwyr. Mae ei gwaith ar y cyd â’r artist Peter Matthews wedi newid ei barn am wyddoniaeth yn y gymdeithas a bydd yn newid ei arfer yn y dyfodol.
Categorïau