Dydd Sadwrn 22 Gorffennaf 2023
10:00 am - 3:30 pm
‘Patchwork’: Dathliad o waith gan ein grwpiau dysgu cymunedol
Dydd Sadwrn 22 Gorffennaf, 10:00 – 3:00pm
Dewch i agoriad ein harddangosfa gan y gymuned ddysgu ddydd Sadwrn 22 Gorffennaf o 10.00am i 3.00pm i ddathlu’r gwaith sydd wedi cael ei greu dros y flwyddyn ddiwethaf.
Gyda gwaith gan Threads: Prosiect crefft cymunedol, Sgyrsiau Cyfoes, Gweithdy dydd Mercher i Oedolion, Sight Life, Criw Celf yr Ifanc, Allgymorth Cymunedol, Criw Celf a’r Grŵp Croeso: Prosiect Mosaig, mae’r gwaith yn cynnwys gwahanol gyfryngau fel arlunio, tecstilau, animeiddio a phaentio. Mae themâu’r gwaith yn cynnwys ymatebion i arddangosfeydd, yr amgylchedd, proses, lliw a’r ddinas.
Gyda cherddoriaeth fyw, perfformiad, gweithdai a lluniaeth, dewch â’r teulu cyfan draw i’r dathliad hwn o greadigrwydd anhygoel ein cyfranogwyr a phobl Abertawe.
Am ddim, croeso i bawb. Does dim angen cadw lle. Galwch heibio unrhyw bryd.
Yn addas i bob oedranra
Categorïau