Dydd Sadwrn 22 Gorffennaf 2023 - Dydd Sul 24 Medi 2023
10:00 am - 4:30 pm
Mae’r arddangosfa’n dathlu gwaith a grëwyd dros y flwyddyn ddiwethaf fel rhan o brosiectau ymgysylltu â’r gymuned y Glynn Vivian, gan gynnwys Threads: Prosiect crefft cymunedol, Sgyrsiau Cyfoes, Gweithdy Dydd Mercher i Oedolion, Sight Life, Criw Celf yr Ifanc, Allgymorth Cymunedol, Criw Celf a Grŵp Croeso: Prosiect Mosaig a phartneriaethau gyda’r Gymdeithas Iberia ac America Ladin yng Nghymru, a’r Ganolfan Gymunedol Affricanaidd.
Mae’r gwaith yn cynnwys cyfryngau gwahanol gan gynnwys arlunio, tecstilau, animeiddiad a phaentio. Mae themâu’r gwaith yn cynnwys ymatebion i arddangosfeydd, yr amgylchedd, proses, lliw a’r ddinas.
Prosiect tecstilau yw Threads sy’n dod â chymunedau a chanddynt ddiddordeb a rennir mewn prosesau tecstilau traddodiadol at ei gilydd. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae’r grŵp wedi bod yn cyd-gynhyrchu cyfres o brosiectau bach gan weithio gydag amrywiaeth o artistiaid allanol i roi cynnig ar syniadau newydd a datblygu sgiliau newydd gan gynnwys lliwio, batic, henna, trosglwyddo delweddau, brodwaith, gwau, gwehyddu a chrosio. Eleni mae’r prosiect Threads wedi bod yn gweithio gyda Menna Buss, Catherine Lewis, Rachel Halstead, Karen O’Shea, Delmy Ramos, Anne Goddard a Sam
Hussain a gwirfoddolwr Vivian Rivas.
Mae’r grŵp Sgyrsiau Cyfoes yn cwrdd i drafod celf gyfoes a thraddodiadol drwy lens digwyddiadau cyfredol ac mewn ymateb i raglen arddangos yr oriel. Eleni mae’r grŵp wedi bod yn trafod syniadau sy’n ymwneud â’r arddangosfa His Dark Materials: Creu Bydoedd yng Nghymru. Maent hefyd wedi trafod Abertawe Agored, curadu a syniad yr oriel White Cube. Dan arweiniad yr Artist Cyswllt Cymunedol Christina Grant.
Grŵp sy’n canolbwyntio ar gelf yw’r Gweithdy Dydd Mercher i Oedolion, sy’n ceisio hyrwyddo annibyniaeth, hyder cymdeithasol a sgiliau creadigol drwy amgylchedd cefnogol ar gyfer hen aelodau a rhai newydd. Eleni mae’r grŵp wedi datblygu eu sgiliau paentio ac arlunio arsylwadol a chydweithredol ac wedi archwilio syniadau sy’n ymwneud â’r amgylchedd, y ddinas a cherfluniau a wnaed o ddeunyddiau wedi’u hailgylchu.
Mae Sightlife yn cynnwys dosbarthiadau a sgyrsiau i bobl a chanddynt nam ar eu golwg. Mae’r grŵp wedi bod yn datblygu eu sgiliau paentio drwy gyfres o weithdai lliw a theori donaidd. Maent wedi defnyddio’r technegau a archwiliwyd drwy’r broses hon i greu cyfres o baentiadau arbrofol. Yn fwy diweddar mae Sightlife wedi bod yn gweithio gyda Marcella O’Hare, Kier Beard a gwirfoddolwr Sightlife Laura Gwen Miles a i archwilio creu marciau arbrofol, arlunio cydweithredol a phaentio digidol.
Gweithdy creadigol i blant sy’n cael eu haddysgu gartref yw Criw Celf yr Ifanc. Drwy ddefnyddio deunyddiau a thechnegau gwahanol, rydym yn cynnig cyfleoedd i gyfranogwyr ddatblygu eu sgiliau a’u hyder a chwrdd â phobl newydd. Mae’r grŵp wedi bod yn gwneud celfweithiau unigol a chydweithredol sydd â phwyslais ar ddysgu ac arbrofi creadigol. Eleni maent yn gweithio gyda’r artistiaid cyswllt Anna Barratt ac Amy Treharne.
Rhaglen o weithdai a gynhelir gan yr Artist Cyswllt Cymunedol, Christina Grant yw Allgymorth Cymunedol. Mae’r grŵp wedi bod yn ymchwilio i hanes Richard Glynn Vivian a chelf Cedric Morris a Matisse, ac maent wedi bod yn ymateb i’r artistiaid hyn drwy baentio, collage ac arlunio.
Grŵp newydd i bobl ifanc 16 i 24 oed yw’r Criw Celf, sy’n archwilio ac yn trafod casgliadau a rhaglenni arddangos cyfoes yr Oriel ac yn arbrofi â phrosesau celf newydd a chreu celf. Fe’i harweinir gan yr Artistiaid Cyswllt Anna Barratt ac Amy Treharne.
Ffurfiwyd y Grŵp Croeso: Prosiect Mosaig mewn ymgynghoriad ag Abertawe Dinas Noddfa a Chyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Abertawe. Mae’r Oriel yn cynnig sesiynau creadigol ymarferol wythnosol mewn creu mosaig, wedi’u harwain gan yr artistiaid Armaghan a Nese Aydin, Melissa Rodrigues, Ezra Kilicdogan, gyda gweithdai oddi ar y safle yn cael eu darparu gan Mary Hayman, Rhiannon Morgan a Elissa Evans. Mae’r grŵp wedi bod yn cynnal dosbarthiadau cyflwyniadol i greu mosaig, gan ddatblygu sgiliau cyfranogwyr fel y gallant greu a gwneud eu dyluniadau eu hunain a chyfrannu at brosiect mainc cydweithredol yr oriel.
Prosiectau partneriaeth
Rydym hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â’r gymdeithas Iberia ac America Ladin yng Nghymru a’r ganolfan gymunedol Affricanaidd, sy’n cynnal prosiectau ar gyfer eu cymunedau gyda’n cefnogaeth ni.
I’n cymuned, hoffem ddiolch i chi i gyd am eich help, eich haelioni, eich cyfraniadau, eich gwirfoddoli, eich brwdfrydedd ond uwchlaw popeth, eich creadigrwydd diddiwedd. Chi sy’n sicrhau llwyddiant yr oriel.
Wedi’i dylanwadu gan ein harddangosfeydd a’n casgliadau, mae ein horiel yn llawn cyfleoedd i ddysgu, darganfod, creu a chael hwyl. Dan arweiniad ein timau dysgu a’n hartistiaid arobryn, gallwch ymuno â’n dosbarthiadau hygyrch wythnosol i bawb, gan gynnwys plant a phobl ifanc, teuluoedd ac oedolion. Rydym hefyd yn cynnig hwyl i deuluoedd yn ystod y tymor ac yn ystod gwyliau ysgol, a ffilmiau i deuluoedd. Mae croeso cynnes i bawb ac mae’r rhan fwyaf o’n gweithgareddau am ddim.
Categorïau