Dydd Mawrth 13 Medi 2022
6:00 pm - 7:00 pm
Ymunwch ag aelodau On Your Face Collective mewn sgwrs ag artistiaid ac entrepreneuriaid LHDTC+ Cymru y mae eu hymchwil, eu hangerdd a’u gweithrediadau uniongyrchol yn ymwneud â chynrychioli ac adennill mannau.
Am ddim. Rhaid cadw lle.
Cynhelir y digwyddiad hwn ar-lein trwy Zoom.
Dilynwch y ddolen hon i gofrestru: https://us06web.zoom.us/meeting/register/tZUrf-Gtrz4sH9PeJVC1c74ak-WjJwdGl1em
Panel
Sita Thomas(hi)
Mae Dr Sita Thomas yn wneuthurwr theatr a ffilmiau Indiaidd-Gymreig sy’n gweithio yng Nghaerdydd ar hyn o bryd. Mae hi’n Gyfarwyddwr Artistig cwmni Theatr Fio, sy’n canolbwyntio ar greu gwaith gyda phobl greadigol a chyfranogwyr Global Majority Fund Wales. Mae hi’n Gydymaith Creadigol yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, yn Artist Cyswllt yn y Theatr Ieuenctid Genedlaethol, ac yn Gyfarwyddwr Headlong Origins. Cyn hynny roedd Sita yn Gyd-Gyfarwyddwr Artistig (cyflenwi dros gyfnod mamolaeth) Theatr Common Wealth.
Coco (nhw)
Mae Coco yn aml-artist ac yn weithredydd creadigol, sy’n ceisio datgymalu’r ystrydeb ‘awdur/bardd’ ‘gwallgof’ neu ‘lhdtc+’ sydd ynghlwm wrth yr hyn ydyw, bod yn ‘wahanol’ mewn cymdeithas, a newid yr hyn yw ‘normal’. Mae Coco yn wastad yn defnyddio’u profiadau personol fel lesbiad anneuaidd, du, creadigol sy’n weithredydd iechyd meddwl – i frwydro yn erbyn gwarthnodau’r byd.
Bethan Marlow
Mae Bethan yn adnabyddus yng Nghymru fel awdures sy’n creu bydoedd ffuglennol sy’n cynnwys lleisiau go iawn. O theatr air am air i gynyrchiadau safle-benodol ac o fewn cymunedau ar gyrion ein cymdeithas, o ffilmiau cwiar sy’n peri i chi deimlo’n hapus i gyfresi teledu sy’n mynd i’r afael â thabŵs, mae ei gwaith bob amser yn gynrychiolaeth ddilys o’r Gymru rydyn ni’n byw ynddi heddiw. Rwy’n canolbwyntio gan amlaf ar leisiau merched, y gymuned cwiar a’r dosbarth gweithiol Cymreig.
Africa Olle (nhw)
Sylfaenydd a chyd-gyfarwyddwr On Your Face.
Mae Africa Olle yn artist amlddisgyblaethol anneuaidd y mae eu harfer yn troi o amgylch eu profiadau byw eu hunain, cynrychiolaeth a gweithrediaeth.
Mae angerdd Olle yn ymwneud â chymryd y lle, creu cyfleoedd i bobl fynegi eu hunain, herio a dadadeiladu hierarchaethau pŵer.
Pwnc mawr o fewn eu hymchwil yw effeithiau diffyg cynrychiolaeth o’u bywyd neu gam-gynrychioli eu bywyd, naratifau a phobl sy’n cael eu hanwybyddu a’u stereoteipio gan amlaf yn y cyfryngau, llenyddiaeth a’r byd celf.
Cerian Wilshere (nhw)
Mae Cerian yn artist, yn hwylusydd ac yn wneuthurwr perfformiadau cwiar dosbarth gweithiol o orllewin Cymru. Mae eu gwaith yn canolbwyntio ar ecoleg cwiar, mynegiant radical a chysylltu â chymunedau LHDTQ+ mewn ardaloedd gwledig. Nhw yw cyd-greawdwr Queer Clown Cabaret, sy’n gydweithfa sy’n llwyfannu perfformwyr cwiar sy’n dod i’r amlwg, maent yn un o drefnwyr Twmpath; cydweithfa celfyddydau gwledig, ac maent hefyd yn Hwylusydd Ymgysylltu Ieuenctid ar gyfer Amgueddfa Cymru.
Yan White (nhw/ef)
Yan White yw Sylfaenydd a Chyfarwyddwr The Queer Empoirum, Menter Gymdeithasol LHDTQ+ sy’n gydweithfa o dros 15 o fusnesau LHDTQ+ lleol. Ers agor fel lle dros dro, mae bellach yn gweithredu fel caffi a lle ar gyfer digwyddiadau ac mae wedi dod yn nodwedd barhaol ar gyfer cymuned Caerdydd. Mae Yan hefyd wedi arwain yr Ŵyl Ymylol Cwiar gyntaf yng Nghaerdydd yn gynharach eleni a osododd ddigwyddiadau mewn dros 20 o leoliadau o gwmpas y ddinas gydag artistiaid a digwyddiadau’n cynnwys awduron, comedi a drag ymysg eraill.
Categorïau