Dydd Sadwrn 30 Tachwedd 2024
1:00 pm - 1:45 pm
Ymunwch â’r artist Emily Rose ar gyfer y daith Iaith Arwyddion Prydain o arddangosfa Out of this World Heather Phillipson.
Cynhelir y daith ddydd Sadwrn 30 Tachwedd am 1pm a bydd yn para tua 45 munud.
Dysgwch am y syniadau, y themâu a’r detholiad o waith a guradwyd o’r Imperial War Museums, Amgueddfa ac Oriel Gelf Castell Cyfarthfa a chasgliad parhaol yr Oriel ei hun.
Gallwch gadw lle ar-lein ar wefan Oriel Gelf Glynn Vivian, ac os oes gennych unrhyw ymholiadau, e-bostiwch Daniel McCabe yn Daniel.McCabe@abertawe.gov.uk
Bydd pawb yn cwrdd am 1:00pm yn nerbynfa’r Oriel ar gyfer dechrau’r daith.
This event is part of a programme of activities to celebrate Heather Phillipson’s Out of this World exhibition.
Mae’r digwyddiad yn rhan o raglen o weithgareddau i ddathlu arddangosfa Out of this World, Heather Phillipson.
Am ddim, rhaid cadw lle.
Ffoniwch 01792 516900 neu cadwch le ar-lein
Heather Phillipson: Out of this World Comisiwn Cronfa Waddol ‘IWM 14-18 NOW’ mewn partneriaeth ag Oriel Gelf Glyn Vivian.
Cysylltwch â’r oriel i gael yr holl wybodaeth am fynediad.
Cysylltwch cyn y gweithdy os oes gennych anghenion mynediad penodol.
Ffôn: 01792 516900
E-bost: glynn.vivian.gallery@abertawe.gov.uk
I ddarllen datganiad mynediad yr Oriel cliciwch yma
Categorïau