Dydd Gwener 12 Gorffennaf 2024 - Dydd Sul 26 Ionawr 2025
10:00 am - 4:30 pm
Yn Out of this World, arddangosfa unigol fawr gyntaf yr artist o waith newydd ers ei henwebu am Wobr Turner, mae Heather Phillipson yn cofnodi dilyniant o amgylchiadau sonig ac atmosfferig sy’n cyfleu awyrle, awyrofod a’r gofod.
Gan ymateb i gyfathrebiadau annaearol radar, sonar a ffenomenau awyr anhysbys, mae Phillipson yn llenwi orielau Glynn Vivian â synau awtomataidd wedi’u tiwnio a delweddau wedi’u disylweddu sy’n arnofio ac yn pylsadu, gan greu’r hyn y mae hi’n ei alw’n ‘niwl gweledol ac acwstig’. Mae’r niwl hwn, fel rhai agweddau ar ryfela, yn rhithweledol – yn cynhyrchu drychiolaethau, rhagfynegiadau a ffantasmagoria. Trwy roi sylw i sain fel grym sy’n trawsgyweirio deinameg ffisegol ac affeithiol, mae Out of this World yn mapio maes dirgrynol sy’n gweithredu bron yn feteorolegol.
Ochr yn ochr â’r comisiwn newydd hwn mae gweithiau celf yn cael eu harddangos, wedi’u dethol gan yr artist, o blith Casgliad yr Amgueddfeydd Rhyfel Ymerodrol (IWM) ac Oriel ac Amgueddfa Castell Cyfarthfa, yn ogystal ag arddangosfa o gasgliad parhaol Oriel Glynn Vivian.
I gyd-fynd â rhaglen Heather Phillipson: Out of this World, ceir rhaglen gyhoeddus, dysgu ac ysgolion, gan gynnwys gweithdai cymunedol creadigol, llwybrau oriel, digwyddiadau gyda’r hwyr, a sgyrsiau gan artistiaid a’r diwydiant. I gael rhagor o wybodaeth, cofrestrwch i fod yn rhan o restr bostio Oriel Glynn Vivian.
Mae Out of this World yn rhan o Gronfa Etifeddiaeth14-18 NOW yr Amgueddfeydd Rhyfel Ymerodrol (IWM), rhaglen bartneriaeth genedlaethol sy’n cynnwys dros 20 o gomisiynau gan artistiaid a ysbrydolwyd gan dreftadaeth gwrthdaro. Dan arweiniad yr Amgueddfeydd Rhyfel Ymerodrol, crëwyd Cronfa Etifeddiaeth 14-18 NOW IWM yn dilyn llwyddiant 14-18 NOW, rhaglen gelfyddydau swyddogol y DU i nodi canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae’r rhaglen gomisiynu gwerth £2.5 miliwn yn bosibl diolch i lwyddiant ffilm glodwiw Peter Jackson, They Shall Not Grow Old, a gomisiynwyd ar y cyd gan IWM a 14-18 NOW.
Categorïau