Dydd Sul 22 Mai 2022 - Dydd Sul 6 Tachwedd 2022
10:00 am - 5:00 pm
Mae Queer Reflections yn weithred o feddiannaeth.
Mae Queer Reflections yn cyflwyno celf cyfunrywiol a hunaniaethau mewn lleoedd heteronormadol traddodiadol.
Mae Queer Reflections yn gyfle i chwarae gyda ffiniau arddangos bod yn cwiar.
Mae grŵp On Your Face wedi dod at ei gilydd i ddefnyddio lle, ac ymateb i a myfyrio ar y gwaith celf sy’n rhan o gasgliad parhaol y Glynn Vivian, sy’n eiddo i bobl Abertawe.
Arweinir On Your Face gan yr artist Fox Irving, a gefnogir gan y tîm yn y Glynn Vivian, ac mae’n dathlu cufynrywioldeb o bob math, gan ddefnyddio casgliad cyfyngedig sydd, ar y cyfan, yn bennaf heteronormadol ac yn ddall i fywydau pobl LHDTC+ a phobl eraill. Trwy gydadweithiau’r grŵp â’i gilydd a’r gwaith celf yng nghasgliad y Glynn Vivian, maent, mewn ffordd chwareus, wedi archwilio a syntheseiddio naratifau newydd am yr hyn mae’n ei olygu i fod yn hoyw/lesbiaidd, cwiar, a/neu niwrowahanol yng Nghymru heddiw.
Dewisodd bob aelod o’r grŵp gelfweithiau o’r Glynn Vivian yr oedd ganddynt berthynas personol â nhw wrth iddynt archwilio’u hunaniaeth cwiar eu hunain. Mae eu myfyrdodau ar y celfweithiau detholedig hyn yn herio’r naratif presennol y tu ôl i’r gelfyddyd honno, ac mae’n agor byd o naratif cwiar Cymreig cyfoes. Mae’r prosiect yn ceisio tarfu ar awyrgylch difrifol lleoedd traddodiadol mewn orielau trwy berfformiadau byw, gosodiadau, gweithdai ac arferion celf cymunedol. Mae Queer Reflections yn ceisio dadansoddi haenau celf hanesyddol a chyfoes; ychwanegu straeon newydd, ffyrdd newydd o edrych a hanesion a naratifau newydd na chânt eu colli. Mae hefyd yn ddathliad o hunaniaeth amrywiol: ail-lunio sgyrsiau am rywioldeb a rhyw yn y celfyddydau mewn ffordd gadarnhaol.
Mae hwn yn rhan o gyfres o brosiectau, sef ‘Sgyrsiau â’r Casgliad‘ lle gwahoddir artistiaid, curadwyr, cymunedau a haneswyr i weithio gyda chasgliad parhaol yr oriel mewn ffyrdd sy’n ein helpu i ailasesu ei werth a pha mor ddefnyddiol ydyw yn y gymdeithas gyfoes, wrth adrodd straeon ac wrth ddechrau sgyrsiau newydd.
‘On Your Face Collective’ yn sgwrsio â Fox Irving
Llwyfan cwiar yw On Your Face sy’n ceisio tynnu sylw at bobl greadigol Cymru.
Trwy greu cyfeirlyfr o bobl greadigol LHDTC+ yng Nghymru, cynnwys a lleoedd cwiar, mae’r llwyfan am arddangos cerddorion. dylunwyr, ysgrifenwyr, artistiaid a ffotograffwyr LHDTC+ yng Nghymru. Yn bwysicaf oll, mae OYF am greu cyfleoedd a swyddi ar gyfer pobl greadigol cwiar yr ardal a dod â’r gymuned cwiar at ei gilydd.
Instagram: @onyourfacecollective
Artist o’r dosbarth gweithiol yw Fox Irving, a anwyd yn Lerpwl, sy’n byw yn y de-ddwyrain.
Caiff y gwaith celf ei lywio gan yr hunaniaeth drothwyol, ansicr maent yn ei phrofi fel person cwiar/lesbiaidd benywaidd/dosbarth gweithiol. Gydag ymagwedd chwareus D.I.Y a gaiff ei llywio gan strategaethau gweithredol a chan ganolbwyntio ar gydweithio, mae Fox yn ymchwilio i sut gall y cymunedau sydd ar y cyrion y mae’n rhan ohonynt ddefnyddio celf fel offeryn grymuso.
Artistiaid Arddangos
Categorïau