Dydd Sadwrn 8 Ionawr 2022 - Dydd Sul 13 Mawrth 2022
10:30 am - 4:00 pm
Arddangosfa Hayward Gallery Touring mewn partneriaeth â Drawing Room
Curadwyd gan Simon Grant, Lars Bang Larsen a Marco Pasi
Ystafell 3
Arddangosfa ryngwladol yw Not without My Ghosts sy’n amrywio o ddiwedd y 19eg ganrif hyd heddiw, ac sy’n edrych ar sut mae artistiaid wedi ymwneud â seansau, sianelu, ysgrifennu awtomatig ac ymchwiliadau goruwchnaturiol eraill. Mae’r arddangosfa, mewn partneriaeth ag arddangosfa Hayward Gallery Touring a Drawing Room, yn cynnwys oddeutu 50 o arddangosion sy’n amrywio o baentiadau, gwaith ar bapur, gosodiadau, fideo ac animeiddiadau.
Mae’r gwaith sy’n cael ei arddangos yn adlewyrchu creu celf fel proses o ymbaratoi i dderbyn a sianelu grymoedd sy’n ehangu terfynau’r profiad dynol. I rai artistiaid, mae eu gwaith yn gweithredu fel tystiolaeth o fyd arall o fodolaeth, tra bod eraill yn chwilio’r ffordd mewn bydoedd cudd a gweledol fel ymateb i gymhlethdod a hynodrwydd bywyd. Mae’r arddangosfa’n cynnwys cyfran fawr o waith gan artistiaid benywaidd, sy’n dangos mai menywod yn bennaf sydd wedi ymwneud â chelf ysbrydion a’i dehongli a sut mae gan eu hymdrechion artistig wreiddiau cryf yn hanes ffeministiaeth.
Bydd yr arddangosfa hon sy’n seiliedig ar ymchwil yn bwrw goleuni ar ystrydebau’r ysbrydol a’r rhithiol, sydd, ar ôl cael eu condemnio’n helaeth fel yn esthetaidd anghyfreithlon ac yn wleidyddol beryglus, wedi dod yn bwysig ers hynny er mwyn cyfleu hanes, cof diwylliannol a bywyd cyfoes. Yn eu beirniadaethau o awduraeth unigol ac ymreolaeth artistig wedi’u plethu â phrofiad dynol, bydd yr arddangosfa’n dadlau sut roedd celf ysbrydion a chyfryngiaethol wedi rhagweld llawer o synfyfyrdodau cyfredol artistiaid cyfoes sy’n gweithio heddiw ac mae asesiad diwylliannol yn ddyledus ers tro.
Pwynt cychwyn Not Without My Ghosts yw gwaith gweledigaethol William Blake, ochr yn ochr â’r artistiaid ysbrydion Fictoraidd, Georgiana Houghton a Barbara Honywood, sydd wedi’u hanghofio i raddau helaeth. Roedd eu gwaith, a oedd yn seiliedig ar brofiadau a chyfathrebu â byd yr ysbrydion, yn drawiadol o groes i draddodiadau cyffredinol mynegiant artistig.
Mae’r arddangosfa hefyd yn croniclo arbrofion y Swrrealyddion ag awtomatiaeth ac yn mynd ymlaen i edrych ar sut roedd artistiaid o’r 20fed ganrif fel Austin Osman Spare, Ithell Colquhoun a Cameron yn cyfuno technegau a gafwyd o awtomatiaeth â diddordeb mewn defodau ocwltyddion. Wrth symud i’r dydd hwn, mae gweithiau gan Emma Talbot, Suzanne Treister, Lea Porsager a Louise Despont yn dangos sut mae artistiaid cyfoes yn dal i ddefnyddio pŵer yr anweledig a’r annaearol i archwilio amwyseddau’r byd o’u cwmpas.
Mae Not Without My Ghosts yn cynnwys gwaith gan Noviadi Angkasapura, William Blake, Cameron, Ann Churchill, Ithell Colquhoun, Louise Despont, Casimiro Domingo, Madame Fondrillon, Chiara Fumai, Vidya Gastaldon, Madge Gill, Susan Hiller, Barbara Honywood, Georgiana Houghton, Augustin Lesage, Pia Lindman, Ann Lislegaard, Jock Macdonald, André Masson, Grace Pailthorpe, František Jaroslav Pecka, Olivia Plender, Sigmar Polke, Lea Porsager, Austin Osman Spare, Emma Talbot, Yves Tanguy a Suzanne Treister gyda The Museum of Blackhole Spacetime Collective.
Mae’r Glynn Vivian hefyd wedi trefnu dwy arddangosfa gan ddau artist o Gymru, y mae eu gwaith hefyd yn ymateb i’r themâu yn Not Without My Ghosts. Bydd arddangosfa Fern Thomas, Spirit Mirror, yn defnyddio ei hymchwil i’r etholfreintiwr, y gwleidyddwr, y dyngarwr a’r ysbrydegwr lleol, Winifred Coombe Tennant (1874 – 1956). Roedd ei chartref yng Nghastell-nedd yn agos at y man lle cafodd Thomas ei magu. Mae’r artist yn cyfuno ei gwaith ei hun a gwaith o’n casgliad parhaol i ystyried themâu rheolaidd fel mytholeg a straeon gwerin yn ei harfer. Rydym hefyd yn dangos gwaith Zoe Preece, y mae ei harddangosfa In Reverence yn defnyddio gwrthrychau sydd wedi’u saernïo’n wych fel cyfarpar cegin a gwrthrychau eraill a wnaed o borslen a phren. Yn ei gwaith, mae’n archwilio themâu bywyd teuluol, atgofion ac absenoldeb trwy’r gwrthrychau ysbrydol hyn.
Ynglŷn â‘r curaduron:
Mae Simon Grant yn ysgrifennwr ac yn hanesydd celf sydd wedi cyfrannu traethodau catalog niferus ar artistiaid modern a chyfoes.
Lars Bang Larsen – hanesydd celf, curadur annibynnol ac ysgrifennydd sy’n gweithio yn Copenhagen. Mae e wedi curadu prosiectau yn Amgueddfa Stedelijk, Amsterdam; Raven Row, Llundain, ac yn Bienal de São Paulo.
Marco Pasi – Athro Cyswllt yn Hanes Athroniaeth Gudd a phethau cysylltiedig cyfredol ym Mhrifysgol Amsterdam. Mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar we gymhleth perthnasoedd rhwng esoteriaeth, crefydd, gwleidyddiaeth a chelfyddyd fodern, orllewinol.
Cydweithiodd y curaduron uchod ar arddangosfa Georgiana Houghton, Spirit Drawings yn Oriel Courtauld yn 2016.
Gwybodaeth am Hayward Gallery Touring
Sefydliad nid er elw mwyaf a mwyaf hir-sefydlog y DU yw Hayward Gallery Touring sy’n cynhyrchu arddangosfeydd celf fodern a chyfoes sy’n teithio i orielau, amgueddfeydd a lleoliadau eraill a ariennir yn gyhoeddus ledled Prydain. Mae Hayward Gallery Touring a ariennir gan Gyngor Celfyddydau Lloegr ac a leolir yng Nghanolfan Southbank Llundain, yn cydweithio â churaduron, artistiaid, ysgrifenwyr annibynnol ac orielau i greu arddangosfeydd uchelgeisiol sydd y tu hwnt i gwmpas sefydliad unigol. Mae ein harddangosfeydd llawn dychymyg sy’n amrywio mewn maint o’r Sioe Gelf Brydeinig – yr arddangosfa fwyaf o gelf gyfoes a gynhyrchir yn y DU – i sioeau ysgrifol bach, yn cael eu gweld gan hyd at hanner miliwn o bobl mewn dros 40 o ddinasoedd a threfi bob blwyddyn.
Drawing Room
Oriel, llyfrgell, siop ac adnodd ar-lein nid er elw yw ‘Drawing Room’ sy’n ymroddedig i gyflwyno byd arlunio cyfoes i bawb. Mae’n enwog ar draws y byd am ysgogi dadleuon ynghylch natur a phwrpas arlunio heddiw. Drwy arddangosfeydd, sgyrsiau ag artistiaid, gweithdai ymarferol a llyfrgell unigryw, a’r cyfan am ddim, mae’n meithrin cynhyrchu darluniau ac yn hyrwyddo dealltwriaeth o ddarlunio. Mae Drawing Room yn un o sefydliadau portffolio cenedlaethol Cyngor Celfyddydau Lloegr ac mae’n cydweithio â sefydliadau i ehangu ymchwil, cynhyrchu cyhoeddiadau a mynd â’i arddangosfeydd ar daith.
Canolfan Southbank
Canolfan Southbank yw canolfan gelfyddydau fwyaf y DU ac un o bum atyniad pennaf i ymwelwyr y DU. Mae yng nghanol ardal ddiwylliannol fwyaf bywiog Llundain, ar lan neheuol afon Tafwys. Rydym yn bodoli i gyflwyno profiadau diwylliannol sy’n dod â phobl ynghyd ac rydym yn cyflawni hyn drwy ddarparu’r gwagle i artistiaid greu a chyflwyno’u gwaith gorau a thrwy greu lle ble gall cynifer o bobl â phosib ddod ynghyd i brofi gwaith beiddgar, anarferol sy’n agoriad llygad. Rydym am fynd â phobl o’r hyn sy’n arferol, a hynny’n ddyddiol.
Mae gan y safle hanes creadigol a phensaernïol arbennig sy’n estyn yn ôl i Ŵyl Prydain 1951. Mae Canolfan Southbank yn cynnwys Neuadd Frenhinol yr Ŵyl, Neuadd y Frenhines Elizabeth, Ystafell Purcell ac Oriel Hayward, yn ogystal â’r Llyfrgell Farddoniaeth Genedlaethol a Chasgliad Cyngor y Celfyddydau. Mae hefyd yn gartref i bedair cerddorfa breswyl (Cerddorfa Ffilharmonig Llundain, y Gerddorfa Ffilharmonia, Sinfonietta Llundain a Cherddorfa’r Oes Oleuedig) a phedair cerddorfa gyswllt (Cerddorfa Aurora, Cerddorfa Gyngerdd y BBC, Cerddorfa Chineke! a Cherddorfa Ieuenctid Genedlaethol Prydain Fawr).
Dewch i weld yr oriel yn rhithwir a mwynhewch deithiau tywys digidol o’r arddangosfeydd
Categorïau