Dydd Mercher 11 Awst 2021 - Dydd Sul 5 Medi 2021
10:30 am - 4:00 pm
Mae’r oriel yn falch o gyhoeddi tair rhodd newydd ar gyfer y casgliad parhaol, a roddwyd yn hael gan Gymdeithas Celf Gyfoes Cymru (CCGC).
Mae’r gymdeithas, a sefydlwyd yn y 1930au i gefnogi’r celfyddydau gweledol yng Nghymru, yn ariannu ei hun drwy danysgrifiadau ac elwon a wneir o gynnal gweithgareddau addysgol. Mae pob casgliad cyhoeddus ac elusennol yng Nghymru wedi elwa’n fawr o CCGC.
Yn 2020, y person a oedd yn gyfrifol am ddewis oedd Andrew Green, sy’n adolygu arddangosfeydd celf yn gyson ers iddo ymddeol o’i swydd fel llyfrgellydd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Dewisodd Green dri darn o waith gan Paul Emmanuel: Cedwir Paentiad Unionsyth Glas yn Oriel Gelf Glynn Vivian a bydd y ddau ddarn arall, Nantyffin Gwyrdd a Llestr Meddal , yn Y Gaer, Aberhonddu. O’r gwaith a gafwyd gan Lara Davies, rhoddir Blodau mewn Fâs o The Last Flowers of Manet 2 a Rhosynnau Mwsogl mewn Fâs o The Last Flowers of Manet 2 i Oriel Gelf Glynn Vivian, a rhoddir Manylion Lelog gwyn mewn Fâs Wydr o The Last Flowers of Manet i Oriel Plas Glyn-y-Weddw yn Llanbedrog.
Categorïau