Dydd Sadwrn 7 Gorffennaf 2018 - Dydd Sul 9 Medi 2018
10:00 am - 5:00 pm
Atriwm, Ystafelloedd 3 & 8
N.S. Harsha yw un o artistiaid pwysicaf India a dyma’r arddangosfa fwyaf o’i waith a gafwyd yn y DU, gan gynnwys dangosiad cyntaf gwaith yn syth o arddangosfa Biennale Sydney 2018 a darn newydd o waith a grëwyd yn arbennig ar gyfer y Glynn Vivian.
Mae gwaith Harsha’n ymwneud â’r berthynas rhwng y lleol a’r bydeang, gan ddwyn at ei gilydd fanylion o’i fywyd beunyddiol yn Mysore a digwyddiadau’r byd. Enillodd Harsha wobr Artes Mundi yn 2008.
Arddangosfa bartneriaeth gan Artes Mundi ac Oriel Gelf Glynn Vivian.
Rhan o fenter ar y cyd India – Cymru rhwng Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a’r Cyngor Prydeinig. Cefnogwyd yn hael gan Mollart Engineering Cyf.
Oriel Gelf Glynn Vivian
Alexandra Road, Swansea, SA1 5DZ
map
Categorïau