Dydd Gwener 6 Mawrth 2020
1:00 pm - 3:00 pm
I ddathlu deng mlynedd Abertawe fel Dinas Noddfa, rydym yn cynnig y cyfle i ddysgu’r sgiliau sydd eu hangen i greu mosäig hardd ac ymarferol.
Gan weithio gyda’r thema “Croeso”, ymunwch â’n hartistiaid mosäig gwirfoddol sy’n geiswyr lloches, Kadir Armağan Aydınand Neşe Aydınand, a thîm dysgu’r oriel, wrth i ni ddylunio a chreu gorchuddion unigryw ar gyfer ein meinciau yn ein gardd.
Byddwch hefyd yn cael cyfle i greu eich darnau personol eich hun yn ystod y prosiect hwn.
Ar gyfer oedolion yn unig oherwydd natur y deunyddiau. Bydd gofal plant ar gael – rhaid cadw lle. Tocynnau bws ar gael i geiswyr lloches a ffoaduriaid.
Rhaid cadw lle. E-bostiwch Daniel.McCabe@abertawe.gov.uk i gadw lle ymlaen llaw.
Oriel Gelf Glynn Vivian
Alexandra Road, Swansea, SA1 5DZ
map
Categorïau