Dydd Mercher 8 Mehefin 2022
6:00 pm - 7:00 pm
Yn Meddwl yn Wyrdd, mae’r artist Owen Griffiths yn defnyddio’r casgliad fel arf i archwilio ein perthynas â defnydd tir a thirwedd wrth i ni ddechrau ar y gwaith o ailystyried gardd yr oriel.
Drwy edrych ar y casgliad drwy wahanol lensys, gallwn archwilio ei gysylltiadau â masnach, yr hinsawdd a’r cyfoeth a greodd dinas Abertawe.
Beth mae archwilio gwaith celf fel pecyn cymorth ar gyfer newid yn ei olygu?
Beth yw rô l yr amgueddfa a’r oriel ar adeg o argyfwng byd-eang?
Sut gall amgueddfa neu orielau fod yn lle ‘defnyddiol’ yn y gwaith o fodelu dyfodol radical?
Ymunwch â ni wrth i ni archwilio’r syniadau hyn trwy gyfres o sgyrsiau a thrafodaethau gyda siaradwyr, artistiaid, ysgrifenwyr a churadwyr gwadd, ar-lein ac yn yr Oriel.
Yr Amgueddfa a’r Oriel fel safle dinesig
Yn Meddwl yn Wyrdd, mae’r artist Owen Griffiths yn defnyddio’r casgliad fel arf i archwilio ein perthynas â defnydd tir a thirwedd wrth i ni ddechrau ar y gwaith o ailystyried gardd yr oriel.
Yn ystod sgwrs gyntaf y rhaglen hon, bydd hanesydd yr henfyd, Dr Mai Musié, a’r curadur, yr addysgwr celf a’r gweithredydd diwylliannol, Alessandra Saviotti, yn ymuno â Griffiths er mwyn ystyried rôl oriel neu amgueddfa fel lle dinesig ac fel safle i drafod a ffurfio syniadau er mwyn dychmygu sawl dyfodol gwahanol.
Bydd y siaradwyr yn trafod sut gellir defnyddio’r casgliad fel offeryn, gan ystyried gwaith Arte Útil, ac yn trafod sut i ddatblygu ffyrdd newydd o weithio gyda chymunedau a’u grymuso yn ystod y sgyrsiau hyn. Wrth adeiladu ar waith presennol Oriel Gelf Glynn Vivian, bydd y sgwrs hon yn archwilio syniadau o ddatganoli straeon hanesyddol a’r rheini sydd eisoes yn bodoli ac yn ystyried sut gall y bobl sy’n defnyddio’r oriel ddod o hyd i’w hanesion eu hunain o fewn ei chasgliadau.
Dydd Mercher 8 Mehefin, 6:00pm – 7:00pm
Gyda siaradwyr, Dr Mai Musié a Alessandra Saviotti
Cynhelir y digwyddiad hwn ar-lein trwy Zoom. Dilynwch y ddolen hon i gofrestru:
https://us06web.zoom.us/meeting/register/tZwkd-yppjwvG9R7aa3L-ThDOa2_Ocla_eKx
Ar ôl cofrestru, byddwch yn derbyn e-bost cadarnhau a fydd yn cynnwys gwybodaeth am ymuno â’r cyfarfod.
Am ddim
Rhaid cadw lle.
Hanesydd yr Henfyd, Swyddog Cynnwys y Cyhoedd a Threftadaeth ym Mhrifysgol Abertawe a chyd-sylfaenydd y prosiect Classics in Communities ym Mhrifysgol Rhydychen yw Mai Musié.
Mae wedi gweithio mewn addysg uwch am y 15 mlynedd diwethaf ar brosiectau mynediad, allgymorth a threftadaeth, gan gynnwys y rhaglen allgymorth ar gyfer Cyfadran y Clasuron, Rhydychen. Mae ei meysydd ymchwil yn canolbwyntio ar hil ac ethnigrwydd yn yr Henfyd. Hi yw cyd-olygydd ‘Forward with Classics:Classical Languages in Schools and Communities’ (2018), gyda Steve Hunt ac Arlene Holmes-Henderson. Mae Mai hefyd yn Ymddiriedolwr Classics for All (elusen addysgol), a’r Gymdeithas Rufeinig.
Curadur, addysgwr celf a gweithredydd diwylliannol o Amsterdam yw Alessandra Saviotti.
Mae’n ymchwilydd PhD yn Ysgol Celf a Dylunio Prifysgol John Moores yn Lerpwl.Mae’n canolbwyntio ar gelf sy’n cynnwys y gymuned, arferion cydweithredol ac Arte Útil (celf fel offeryn). Nod ei gwaith yw gwireddu prosiectau lle mae’r cyhoedd yn dod yn gyd-gynhyrchydd yn ysbryd defnyddio. Mae ei phrosiectau yn rhoi sylw i brosesau cydweithredol yn ôl yr arwyddair ‘mae cydweithio’n well na chystadlu’. Hi yw cyd-sylfaenydd y grŵp celf gyfunol Aspra.mente (2006-2016), grŵp sy’n canolbwyntio ar y diffiniad cyffredinol ‘gwaith ar y gweill’, sy’n ceisio cyfraniad gweithredwyr mewn meysydd heblaw celf ar gyfer prosiectau rhyngddisgyblaethol sy’n rhydd o gyfyngiadau amser. Ers 2014 mae hi wedi bod yn cydweithio â’r Asociación de Arte Útil gyda’r nod arbennig o ryddhau’r defnydd o’r archif Arte Útil (https://www.arte-util.org/).
Ar hyn o bryd, mae hi’n ymchwilio ac yn ysgrifennu am sut y gallai modelau addysg amgen sydd wedi’u cyflwyno fel Arte Útil gael eu gweithredu’n llwyddiannus o fewn y sefydliad addysg, gan feithrin cynaliadwyedd a hacio’r sefydliad ei hun. Mae’n aelod o Art Workers Italia (https://artworkersitalia.it/) a’i phrosiect diweddar yw Decentralising Political Economies (https://dpe.tools/), a wireddwyd mewn cydweithrediad ag Oriel Gelf Whitworth (Manceinion), LJMU’s The City Lab a’r Association of Arte Útil.
Categorïau