Dydd Sadwrn 15 Hydref 2016 - Dydd Sul 8 Ionawr 2017
10:00 am - 5:00 pm
Bydd y Glynn Vivian yn arddangos deg o’r darluniau gorau gan Leonardo da Vinci yn y Casgliad Brenhinol mewn arddangosfa newydd.
Mae’r gwaith wedi cael ei ddewis i ddangos cwmpas arbennig o diddordebau’r artist, o baentio a cherflunio i beirianneg, söoleg, botaneg, llunio mapiau ac anatomeg, yn ogystal â’i ddefnydd o gyfryngau gwahanol – pen ac inc, sialciau du a choch, dyfrlliwiau a phwyntilau metel.
Drwy dynnu lluniau, roedd Leonardo yn ceisio cofnodi a deall y byd o’i gwmpas. Darluniau Leonardo yw’r rhai cyfoethocaf, mwyaf amrywiol, mwyaf technegol ddisglair a mwyaf bythol ddiddorol diddiwedd gan unrhyw artist.
Oriel Gelf Glynn Vivian
Alexandra Road, Swansea, SA1 5DZ
map
Categorïau