Dydd Sadwrn 19 Tachwedd 2022
2:00 pm - 3:30 pm
Ymunwch â ni i ddathlu lansiad Bywyd a Gwaith / A Life in Art (Y Lolfa), a ymchwiliwyd ac a ysgrifennwyd gan yr artist llawrydd, yr hanesydd celf a’r curadur, yr Athro Ceri Thomas RCA.
Ymunwch â’r awdur Ceri Thomas a merch yr artist, Nia Caron sy’n actio yn Pobl y Cwm, a fydd yn siarad am Ogwyn Davies a’i gelf.
Tocynnau:
Am ddim i Gyfeillion y Glynn Vivian.
£2.75 i’r rheini nad ydynt yn aelodau
Cadwch le ar-lein https://www.eventbrite.co.uk/e/462541172097
Gwybodaeth am yr awdur: Mae Ceri Thomas yn artist llawrydd, hanesydd celf, darlithydd hanes celf a churadur orielau o Abertawe.
Cyhoeddodd nifer o weithiau a churadodd arddangosfeydd ar amryw o artistiaid modern a chyfoes o Gymru, yn amrywio o Joan Baker i Ernest Zobole. Mae’n aelod o Academi Cambria Brenhinol, yn Aelod Anrhydeddus o Grŵp Cymru ac mae wedi arddangos ei waith ledled Cymru a thramor.
Categorïau