Dydd Sadwrn 23 Mawrth 2024 - Dydd Sul 19 Mai 2024
10:00 am - 4:30 pm
Glynn Vivian gyda’r Hwyr, nos Wener 22 Mawrth 2024, 5:30pm – 8:00pm
Mae oriel gelf Glynn Vivian Abertawe’n cyflwyno The Russian Doll gan Kristel Trow, sy’n cael ei harddangos rhwng 23 Mawrth a 19 Mai, 2024.
The Russian Doll yw gwaith mwyaf personol Kristel hyd yma, cyfres o bortreadau ffotograffig du a gwyn newydd o fenywod sydd wedi profi pob math o adfyd yn eu bywydau.
Mae’r gweithiau a ysbrydolwyd gan ffotograffwyr adeg y rhyfel a arferai gario eu hystafelloedd tywyll cludadwy eu hunain, wedi’u datblygu mewn camera a ddyluniwyd yn arbennig, sy’n eistedd ym mola Doli Rwsiaidd. Cafodd Kristel Ddoli Rwsiaidd pan oedd yn blentyn, gwrthrych adnabyddadwy a chofrodd boblogaidd, ac fe’i cadwodd nes iddi symud i loches i ferched ei hun. Yn ystod y cyfnod hwn newidiodd ei barn am y gwrthrych – daeth yn ‘symbol o fenyweidd-dra a ffrwythlondeb, yn garicatur o sut mae menywod yn cael eu gweld a’u trin o bryd i’w gilydd; fel addurn personol y gellir ei godi a’i roi i lawr.’
Mae Kristel wedi cydweithio â menywod ar gyfer y gyfres hon o bortreadau sy’n cyfleu eu straeon personol, y mae llawer ohonynt yn ymwneud â thrais, gan gynnwys trais ddomestig, gwladwriaeth ac iechyd. Mae’r gosodiad yn mynd â chi ar daith fewnol o drawma i adferiad ac yn tynnu sylw at brofiadau a rennir drwy leisiau’r menywod hyn. Mae Kristel wedi bod yn cydweithio’n agos â menywod ledled y wlad, yng Nghymru ac ymhellach i ffwrdd yn Rhydychen, Dartmoor a’r Prosiect Eden, Cernyw. Mae pob lle wedi’i ddewis yn ofalus gyda phob cydweithredwr, fel lle sy’n golygu rhywbeth i bob un o’r menywod hyn.
Mae testunau wedi’u hysgrifennu â llaw a gyflwynir ochr yn ochr â’r delweddau’n ychwanegu haenau o naratif, emosiwn, a myfyrio gyda dyfyniadau a gymerwyd yn uniongyrchol gan gyfranogwyr y prosiect. Mae’r awdur a’r gwneuthurwr ffilmiau arobryn, Will Millard, hefyd wedi dogfennu taith Kristel Trow o greu’r gwaith, a bydd y ffilm newydd hon hefyd yn cael ei harddangos.
Dywedodd Kristel Trow, artist: “Mae gen i stori sy’n ddilys ac rwyf wedi bod ar daith y bydd llawer o bobl eraill yn ei dilyn os ydyn nhw’n ddigon parod i ddal ati. Efallai mai’r peth mwyaf dewr rwyf wedi’i wneud yn ystod fy nghyfnodau tywyllaf yw galw fy hun yn artist beth bynnag.”
Meddai Karen Mackinnon, Curadur, Oriel Gelf Glynn Vivian, “Mae hwn yn bwnc mor bwysig ac mae’n hanfodol bod celf yn archwilio’r straeon hyn, mae gwaith Kristel yn ymgysylltu’n sensitif â’r pwnc drwy rymuso ei chydweithredwyr i greu naratif newydd.”
Mae Kristel Trow yn artist o Gymru sy’n cynhyrchu gwaith ar ffurf ffotograffiaeth, gosodiad a chyfryngau cymysg yn bennaf.
Mae Trow yn gwneud defnydd o Gelfyddyd Bop, Celf Berfformiad a theori ffeministaidd i greu gwaith arloesol sy’n ceisio herio ffyrdd o gyflwyno a gweld ei delweddau.
Cyflwynwyd arddangosfa unigol gyntaf Trow yn G39 yn ystod ail flwyddyn ei gradd yn 2004 – “The String Quartet -4” – sef perfformiad a gyflwynwyd gydag offerynnau addasedig mewn ymgais i darfu ar siopwyr drwy newid y seinwedd a thynnu sylw at synau o’r amgylchedd y tu allan. Ar ôl graddio daeth yn gydawdur cwrs gradd mewn Amlgyfrwng a Sain ym Mhrifysgol Southampton ac yn ddarlithydd gwadd.
Mae Will Millard yn awdur a gwneuthurwr ffilmiau arobryn sydd wedi’i leoli yn Ne Cymru.
Enillodd wobr BAFTA Cymru am ei gyfres BBC am fyw gyda phobloedd frodorol yn ‘Hunters of the South Seas’ a ‘My Year With the Tribe’; ac mae’n gyflwynydd cyfres boblogaidd y BBC am hanes Cymru, ‘Hidden Wales’. Mae hefyd yn ysgrifennu llyfrau i oedolion a phlant am fywyd gwyllt a phobl sy’n byw ac yn gweithio’n agos at natur. Mae ei lyfr diweddaraf gyda PanMacmillan, The Way of the Hermit, yn adrodd hanes bywyd Ken Smith, ‘meudwy Treig’, sydd wedi treulio’r pedwar degawd diwethaf yn byw ar ei ben ei hun yn y gwyllt.
Categorïau