Dydd Mercher 15 Medi 2021 - Dydd Sul 27 Chwefror 2022
10:30 am - 4:00 pm
Mae Oriel Gelf Glynn Vivian yn falch o gyflwyno’r arddangosfa, Indigo: Casglu, Cadwraeth, Chemeg, fel rhan o arddangosfeydd y casgliadau parhaol. Mae’r arddangosfa’n ymdrin â phaentiad portread o fenyw ifanc o lys y Frenhines Anne, o gymynrodd Richard Glynn Vivian ym 1911. Mae eitemau eraill o’r casgliad parhaol yn ategu at yr arddangosfa.
Drwy’r paentiad, ac yn fwy penodol y defnydd o’r lliw pigment indigo, bydd yr arddangosfa’n archwilio hanes y cyfnod y gwnaethpwyd y paentiad, natur gemegol pigmentau a ryseitiau paent, yn ogystal â deunyddiau, cemeg a thechnegau cadwraeth celf. Anogir ymwelwyr i gysylltu â’r amryfal agweddau hyn, er mwyn archwilio pwysigrwydd cemeg yn y celfyddydau a chadwraeth fel offeryn unigryw wrth ddatgelu cyfrinachau’r gorffennol.
Ar ôl cael ei storio am flynyddoedd lawer, glanhawyd ac adferwyd y cynfas olew hwn gan Swyddog Cadwraeth y Glynn Vivian (Paentiadau Olew), Jenny Williamson, sydd wedi datgelu lliwiau llachar y pigmentau a ddefnyddiwyd fel arfer gan artistiaid ar ddechrau’r 1800au a dod â bywyd newydd iddynt.
Atebwyd y cwestiwn ynghylch hunaniaeth yr arlunydd gyda chymorth archifau a chemeg ddadansoddol, lle defnyddiwyd amrywiaeth o dechnegau, yn arbennig wrth astudio’r pigment glas a ganfuwyd yn ffrog y fenyw ifanc.
Mae Dr Cecile Charbonneau, Dr Ann Hunter a Katie Hebborn yn dîm o wyddonwyr ym Mhrifysgol Abertawe sy’n rhannu’r un brwdfrydedd dros gemeg a’r celfyddydau cain. Maen nhw, ynghyd â Jenny Williamson, wedi bod yn gweithio gyda’i gilydd i bennu natur gemegol pigmentau a geir yn y paentiad i gasglu cliwiau sy’n hanfodol i fwrw goleuni ar hunaniaeth y paentiwr.
Meddai Jenny Williamson, ‘Mae’r cydweithrediad hwn wedi bod yn hynod ddiddorol a’r hyn rwyf wedi ei fwynhau amdano yw bod cynifer o elfennau iddo. Felly teimlaf yn freintiedig fy mod wedi gallu gwneud y gwaith cadwraeth sydd wedi datgelu ansawdd a lliwiau’r paentiad hwn. Mae’r gwyddonwyr wedi cyflwyno’u gwahanol dechnegau a sgiliau, sy’n ein galluogi i weld y paentiad hwn mewn ffordd hollol newydd. Nid oeddwn wedi sylweddoli ein bod yn gallu edrych ar y paentiad mewn cynifer o ffyrdd gwahanol, a fyddai’n rhoi gwybodaeth wahanol i ni, ac yna, os ydym yn ychwanegu ymchwil hanes celf a dadansoddiad arddulliadol arbenigwyr, teimlaf y gallwn gael dealltwriaeth a mewnwelediad hollol newydd i’r paentiad hwn.’
Meddai Dr Ann Hunter, ‘Mae wedi bod yn wych bod yn rhan o brosiect sy’n ymwneud â chelf a gweithio gyda gwyddonwyr a gweithwyr cadwraeth celf mor dalentog. Mae gweithio gyda’n gilydd fel tîm wedi dangos pa mor amlddisgyblaethol y mae celf a gwyddoniaeth yn gallu bod, rydym wedi rhannu syniadau â’n gilydd ac mae wedi bod yn broses bleserus iawn.’
Meddai Dr Cecile Charbonneau, ‘Dechreuodd fy ngyrfa wyddonol yn Amgueddfa’r Louvre. Pan oeddwn yn fyfyriwr israddedig, roeddwn i yn ffodus iawn fy mod i’n gallu gwneud lleoliad yno, yn y labordai yno. Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf wnes i ddim ymgysylltu â’r byd celf mewn gwirionedd, ond gwnes i barhau i ddatblygu sgiliau sy’n berthnasol iddo. Ac i fi, roedd y prosiect hwn yn ffordd i mi ddefnyddio gwyddoniaeth fforensig a dadansoddi celf unwaith eto, sy’n rhywbeth a oedd yn annwyl iawn i mi.
Mae’r arddangosfa hon mewn partneriaeth ag Oriel Gelf Glynn Vivian Cyngor Abertawe a Phrifysgol Abertawe. Fe’i hariannwyd drwy grant gan Gronfa Allgymorth y Gymdeithas Gemeg Frenhinol, gyda chefnogaeth gan Oriel Gelf Glynn Vivian, Cyngor Abertawe, SPECIFIC, Beacon, Prifysgol Abertawe gyda chefnogaeth gan y Cyngor Ymchwil Peirianneg a Gwyddorau Ffisegol a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.
Categorïau