Dydd Sadwrn 23 Medi 2017 - Dydd Sul 19 Tachwedd 2017
10:00 am - 5:00 pm
Mae Helen Sear yn un o artistiaid mwyaf clodwiw Cymru. Yn ei gwaith, symudir yn ddi-dor rhwng syniadau estynedig o ffotograffiaeth, cerfluniaeth a fideo. Yr arddangosfa hon yw cyflwyniad cyntaf y gwaith hwn yn y DU a gomisiynwyd yn wreiddiol ar gyfer Cymru yn Fenis 2015.
Mae’r gwaith yn seiliedig ar Gymru wledig, sef amgylchedd lleol Sear. Mae ei gwaith yn archwilio syniadau o farwoldeb a byrhoedledd drwy gyfres o ddelweddau lle gwelir bod tirweddau amaethyddol ar gyfer cynhyrchu a’u defnyddio yn bodoli fel mannau hudol ar yr un pryd, gan greu argraff ar gorff a meddwl y gwyliwr. Mae ffotograffau a fideos Sear yn archwilio’r ddelwedd fel cerflun, lle mae’r artist yn cyfuno gwahanol gyflymderau o edrych, graddfeydd ffisegol cyferbyniol, lliw a phresenoldeb materol lliwgar.
Curadwyd yr arddangosfa …mwg yw’r gweddill gan Stuart Cameron ar ran Ffotogallery ac fe’icomisiynwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Bydd yr arddangosfa ar daith tan 2020 yn Oriel Impressions Scarborough.
Oriel Gelf Glynn Vivian
Alexandra Road, Swansea, SA1 5DZ
map
Categorïau