Dydd Sadwrn 15 Mehefin 2019 - Dydd Sul 1 Medi 2019
10:00 am - 5:00 pm
Marcel Dzama | Marcel van Eeden | Inci Eviner | Yun-Fei Ji | William Kentridge | Nalini Malani | Otobong Nkanga | Raymond Pettibon | Amy Sillman | Rinus Van de Velde
Mae Hand Drawn Action Packed yn cynnwys deg artist y mae darlunio’n sail i’w gwaith, gan ddangos posibiliadau diddiwedd y cyfrwng hwn at ddibenion creu naratif.
Daw’r artistiaid o wledydd ar draws y byd (Gwlad Belg, Canada, Tsieina, India, Nigeria, yr Iseldiroedd, De Affrica, Twrci ac UDA), ond mae gwaith pob un ohonynt yn dangos ffurfiau naratif ar gyfer ffantasi, beirniadaeth gymdeithasol, alegori wleidyddol a hunangofiant i gynnwys a chadw sylw’r gynulleidfa.
Maent yn gwneud defnydd dychmygus o’r offer sydd ar gael iddynt, boed yn iPhone, yn sgrîn cyfrifiadur a thaflunydd, camera a darn o siarcol neu feiro, inc a dyfrlliw.
Mae’r berthynas rhwng delwedd a gair yn narluniau Raymond Pettibon, Marcel van Eeden a Rinus Van de Velde yn ymddangos drwy gapsiynau neu swigod siarad, gan ddefnyddio’r un offeryn ar gyfer y llun a’r geiriau, er mwyn angori neu ddrysu eu hystyr.
Mae animeiddiadau Amy Sillman yn defnyddio iaith i greu delweddau, a ffonau clyfar neu iPads sy’n cael eu defnyddio i greu’r animeiddiadau hyn mewn cydweithrediad â beirdd.
Mae chwedlau Groegaidd a Hindŵaidd yn cael eu cynnwys yn narluniau Nalini Malani, ac mae ei ffilm wedi’i hanimeiddio’n fyfyrdod tawel ar fyrhoedledd, gyda’r ddelwedd yn ymddangos ac yn diflannu.
Yn fideo dyfeisgar Inci Eviner, dangosir ffigyrau dynol yn rhyngweithio ag animeiddiad a ddarluniwyd â llaw, wrth i gyfres o ddarluniadau gan William Kentridge ddangos y broses y tu ôl i’w animeiddiadau fesul ffrâm, gan ddangos pob cam o’r naratif gweledol.
Caiff gwirioneddau gwleidyddol eu trafod yn graff yn nelweddau Yun-Fei Ji ac Otobong Nkanga, sy’n cynrychioli pŵer a difeddiant, ac mae byd theatrig o berfformwyr â mygydau a gwisgoedd yn cael ei ddangos yng ngolygfeydd epig Marcel Dzama, sydd wedi’u darlunio’n gain.
Arddangosfa Deithiol Hayward
Oriel Gelf Glynn Vivian
Alexandra Road, Swansea, SA1 5DZ
map
Categorïau