Dydd Gwener 8 Ebrill 2022 - Dydd Sul 4 Medi 2022
10:00 am - 5:00 pm
Prynwyd mewn partneriaeth â Chyfeillion y Glynn Vivian
Mae Oriel Gelf Glynn Vivian yn falch o gyhoeddi’r derbynnydd Gwobr Wakelin ar gyfer 2021. Rhoddir y wobr flynyddol i artist o Gymru, y caiff ei waith ei brynu ar gyfer Casgliad Parhaol Oriel Gelf Glynn Vivian.
Derbynnydd Gwobr Wakelin 2021 yw Cinzia Mutigli.
Mae enillwyr blaenorol y wobr yn cynnwys Brendan Stuart Burns, Anthony Shapland, Catrin Webster, Jonathan Anderson, Meri Wells, David Cushway, Helen Sear, Clare Woods, Alexander Duncan, Philip Eglin, Richard Billingham ac Anya Paintsil.
Y detholwr eleni yw Anthony Shapland, artist a churadur o Gaerdydd, sydd wedi arddangos ei waith yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae hefyd yn adnabyddus am ei waith curadurol gyda g39, sefydliad yng Nghaerdydd sy’n cael ei redeg gan artistiaid. Mae’n gyn-enillydd y wobr – fe’i dewiswyd 13 o flynyddoedd yn ôl.
Mae Cinzia Mutigli, a anwyd yng Nghaeredin ond sy’n byw yng Nghaerdydd, yn gweithio ar draws amrywiaeth o gyfryngau gan gynnwys testun, perfformiad a fideo sy’n cysylltu ei stori ei hun â hanesion diwylliannol ehangach. Mae gan waith Mutigli graidd bywgraffyddol cryf. Mae’n ystyried sut mae amgylcheddau domestig, cymdeithasol-wleidyddol a diwylliannol poblogaidd yn rhyngweithio, a sut maen nhw’n effeithio ar ein persona, ein seicoleg a’n hymdeimlad o hunaniaeth. Y gwaith a ddewiswyd gan Anthony Shapland yw Sweet Wall, 2020, sef gosodiad ffilm amlddimensiwn. Drwy ailadrodd rhythmig, mae’r artist yn siarad am gynefinoedd a chylchoedd, gan weld amser fel dolen barhaol sy’n symud yn ôl ac ymlaen. Mae themâu a motifau rheolaidd yn cynnwys papur wal, gwallt, ymarferion a smalio.
Meddai Anthony Shapland, “Roedd yn anrhydedd i mi enwebu ar gyfer Gwobr Wakelin eleni. Rwy’n ymwybodol o’r effaith y cafodd ar fy ngyrfa fy hun a’r hyder roeddwn i’n ei deimlo wrth dderbyn y wobr yn 2008. Gwnes i ystyried sawl ffactor, gan gynnwys fy ymwybyddiaeth fy hun o leisiau nad oeddent yn cael eu cynrychioli digon yng nghasgliadau Cymru.Roeddwn i’n edrych ar artistiaid nad ydynt wedi cael y gydnabyddiaeth na’r gefnogaeth y mae eu gwaith yn eu haeddu – ac mae’r gwaith hwn yn rhagorol.
Rwyf wedi adnabod Cinzia ers iddi gyrraedd Cymru yn y 90au ac mae ei harfer wedi bod yn gyson ac yn drylwyr. Mae ar lwybr sy’n adlewyrchu arfer hwy a chroniad ystyriol o feddyliau a syniadau. Mae cyfleoedd diweddar ar gyfer prosiectau unigol uchelgeisiol ar raddfa fwy wedi arddangos ton glir a chyffrous o waith newydd, ac rwy’n falch iawn ar hyn o bryd fod y datblygiad hwn wedi’i nodi drwy ddod yn rhan o’r casgliad.”
Dywedodd Cinzia Mutigli: “Rwy’n ddiolchgar iawn i bawb sy’n rhan o Wobr Wakelin. Mae derbyn y wobr hon yn bwysig iawn i mi, yn enwedig oherwydd fy mod i’n artist sydd wedi ailddechrau fy arfer ar ôl seibiant hir. Mae’n golygu llawer i gael cefnogaeth y wobr a chefnogaeth y Glynn Vivian.”
Cyfeillion Oriel Gelf Glynn Vivian sy’n gyfrifol am weinyddu’r wobr hon ac fe’i cefnogir yn hael gan roddion ariannol er cof am Richard a Rosemary Wakelin, a’u mab Martin, a oedd hwythau’n artistiaid ac yn gefnogwyr brwd o’r celfyddydau yn Abertawe. Meddai Dr Peter Wakelin, “Ar ôl byw yn Abertawe am bron 40 o flynyddoedd, mae ein teulu wir yn gwerthfawrogi casgliad sefydledig y Glynn Vivian, yn ogystal â’r gelf newydd a oedd yn cael ei chreu. Treuliodd fy rhieni lawer o amser yn yr Oriel a chyda’r Cyfeillion. Byddent yn falch iawn o weld artistiaid sy’n dangos cymaint o ddiddordeb yn cael eu cynrychioli yn y casgliad, diolch i’r cynllun gwobr hwn.”
Meddai Sarah Tombs, Cadeirydd Cyfeillion y Glynn Vivian, “Mae’r wobr hon wedi caniatáu i amrywiaeth o artistiaid a gwneuthurwyr cyfoes o Gymru elwa o bryniant eu gwaith, a’r bri o gael eu cynrychioli yng nghasgliad y Glynn Vivian, yn ogystal â gwneud cyfraniad sylweddol i gasgliad cyfoes yr Oriel. Mae gwaith Cinzia Mutigli yn ddewis cyffrous a phriodol ar gyfer y Glynn Vivian ac edrychwn ymlaen at ddathlu ei gwaith yn yr Oriel.”
Meddai Karen Mackinnon, Curadur yn Oriel Gelf Glynn Vivian, “Rydym yn falch iawn o allu ychwanegu gwaith Cinzia at y casgliad parhaol ac rydym yn ddiolchgar iawn i Peter Wakelin a gweddill y teulu Wakelin, a Chyfeillion y Glynn Vivian, am wneud y cyfan yn bosib. Mae’r gwaith rydym wedi gallu’i brynu, sef Sweet Wall (2020), yn ddarn o waith amlddimensiwn sy’n cyfuno perfformiad â gosodiad. Drwy’r gwaith hwn, mae’r artist yn archwilio themâu cysylltiedig, sy’n bersonol ac yn wleidyddol. Mae Sweetwall yn archwilio ein hobsesiwn gyda siwgr, a gwe gymhleth gwladychiaeth, cyfalafiaeth a’n cyrff bregus; ein harferion, ein hansicrwydd a’n hofnau gwreiddiedig. Diolch yn fawr i Cinzia am y gwaith pwerus hwn ac i Anthony, ein detholwr.”
Gweinyddir a chefnogir y wobr gan Gyfeillion y Glynn Vivian, ynghyd â rhoddion er cof am Richard a Rosemary Wakelin.
Ewch ar daith rithwir
Categorïau