Dydd Mercher 26 Mai 2021 - Dydd Sul 31 Hydref 2021
10:30 am - 4:00 pm
Mae Oriel Gelf Glynn Vivian yn falch o gyhoeddi enillydd Gwobr Wakelin ar gyfer 2020. Rhoddir y wobr flynyddol i artist o Gymru, y caiff ei waith ei brynu ar gyfer Casgliad Parhaol Oriel Gelf Glynn Vivian.
Enillydd Gwobr Wakelin 2020 yw Anya Paintsil.
Mae enillwyr blaenorol y wobr yn cynnwys Brendan Stuart Burns, Anthony Shapland, Catrin Webster, Jonathan Anderson, Meri Wells, David Cushway, Helen Sear, Clare Woods, Alexander Duncan, Philip Eglin a Richard Billingham.
Detholwr eleni yw’r artist a’r curadur Kathryn Campbell Dodd a ysgrifennodd ei bod hi’n teimlo bod gwaith Anya, ‘yn gyffrous ac yn dyner. Mae’r darnau pwerus hyn a wnaed gan ddefnyddio technegau tecstilau traddodiadol medrus (a drosglwyddwyd i Anya gan ei mam-gu) yn ymgorffori materion am ddosbarth, hil, ffeministiaeth a pherthyn sy’n hanfodol i’n hoes.’
Artist Cymreig a Ghanaidd yw Anya Paintsil sy’n gweithio’n bennaf gyda thecstiliau. Mae’n byw ym Manceinion ar hyn o bryd, ond cafodd ei magu yng ngogledd Cymru gyda’r Gymraeg yn iaith gyntaf iddi. O wneud rygiau â bachau i frodwaith, mae ei
chydosodiadau’n awgrymu tapestri cyffyrddol ar un llaw, ac ymyriadau lled-gerfluniol ar y llaw arall. Gan ddefnyddio gweadau, plethau a darnau eraill o wallt (yn ogystal â’i gwallt ei hun) yn aml, mae Paintsil yn gweu dadleuon am hil a rhyw yn neunydd ei gwaith. Mae ei harfer chwareus a difrifol, gwamal a grymus yn cynnwys ieithoedd ffibrau – o bob math – gyda holiadau am fateroldeb a phersonolaeth wleidyddol. Dywedodd Anya Paintsil: “Rwy’n falch iawn o dderbyn Gwobr Wakelin eleni ac rwy’n falch iawn y bydd fy ngwaith yn ymuno â chasgliad cyhoeddus mor bwysig yn Abertawe. Hoffwn ddiolch i’r trefnwyr am eu haelioni. Rwy’n siŵr y bydd llawer o artistiaid eraill yn cael eu cefnogi gan y wobr yn y dyfodol.”
Cyfeillion Oriel Gelf Glynn Vivian sy’n gyfrifol am weinyddu’r wobr hon ac fe’i cefnogir yn hael gan roddion ariannol er cof am Richard a Rosemary Wakelin, a’u mab Martin, a oedd hwythau’n artistiaid ac yn gefnogwyr brwd o’r celfyddydau yn Abertawe. Meddai Dr Peter Wakelin, “Roedd fy nheulu’n wir yn gwerthfawrogi celf newydd yn ogystal â phopeth a oedd eisoes yng nghasgliad gwych Oriel Gelf Glynn Vivian, yr oeddem yn dwlu arni. Roedd fy rhieni wedi treulio llawer o amser ac wedi gweithio’n galed i gefnogi’r Oriel a’i Chyfeillion, a byddent yn falch iawn o weld artistiaid cyfoes o Gymru’n cael eu cynrychioli cymaint yn well yn y casgliad o ganlyniad i’r cynllun gwobr hwn.”
Cytunodd Karen Mackinnon, Curadur Oriel Gelf Glynn Vivian, “Ers yr 20 mlynedd diwethaf mae Gwobr Wakelin wedi galluogi’r Oriel i gael gafael ar lawer o gelfweithiau arwyddocaol ar gyfer casgliad yr oriel. Rydym yn falch iawn bod Gwobr Wakelin eleni wedi caniatáu i ni gael gafael ar waith Anya Paintsil, artist ifanc gwych o ogledd Cymru. Mae ei harfer tecstilau’n cynnwys gwneud rygiau â bachau a brodwaith sy’n arwain at gelfweithiau sy’n debyg i dapestri ac ymyriadau lled-gerfluniol. Mae’r canlyniadau’n chwareus ac yn bwerus ac yn cyfeirio at ei phlentyndod a’i magwraeth ngogledd Cymru. Ond mae eu hiwmor yn cuddio materion cydgysylltiedig ynghylch dosbarth, hil a rhyw. Rydym hefyd yn gweithio gydag Anya ar gomisiwn newydd ar gyfer y casgliad i’w arddangos ochr yn ochr â Mair at Cylch Meithrin, 2020; gwnaed y darlun ymddiddan hwn yn bosib hefyd trwy wobr Wakelin hefyd. Hoffem ddiolch yn fawr i Kathryn Campbell Dodd am ddewis y gwaith hwn ac wrth gwrs i Anya Paintstil.”
Richard a Rosemary Wakelin
Bu Richard Wakelin 1921-1987) a Rosemary Culley (1919-1998), ill dau’n artistiaid, yn gweithio yn Abertawe o ddiwedd y 1950au. Fe’u ganed yng Nghaerdydd a chyfarfuont pan oeddent yn fyfyrwyr yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru ym 1939 cyn mynd i’r lluoedd arfog dros gyfnod y rhyfel Fe’u priodwyd ym 1947. Bu Richard yn gweithio fel pensaer mewn practis preifat yn Abertawe ac yn ddiweddarach gyda chyngor y ddinas (lle’r oedd ei rôl yn cynnwys gwaith gofal ac addasu yn Oriel Gelf Glynn Vivian). Roedd y teulu’n byw yn Sgeti, a symudodd Rosemary i Ystumllwynarth ym 1990. Fel artistiaid, roedd y ddau’n gweithio mewn arddulliau haniaethol, ond roeddent yn gwerthfawrogi pob math o gelf a chrefft. Gweithiodd y pâr gyda sawl sefydliad i hyrwyddo’r celfyddydau gweledol, yn arbennig Cymdeithas Gelfyddydau Abertawe, Cymdeithas Artistiaid a Dylunwyr Cymru, 74 Guild of Artist Craftsmen, y Grŵp Cymreig a Chyfeillion Oriel Glynn Vivian.
Roeddent yn gyd-sylfaenwyr Gweithdy Celf Abertawe, Oriel Mission erbyn hyn, yn yr Ardal Forol, Roeddent bob amser yn awyddus iawn i helpu ac annog artistiaid a chrefftwyr dawnus, yn enwedig y rheini a oedd yn ceisio cael cydnabyddiaeth, ac i ehangu’r mwynhad o’r celfyddydau yn Abertawe ac yng Nghymru’n gyffredinol. Enwau’r tri phlentyn sy’n dal yn fyw yw Andrew, Sally (a’i merch Kate) a Peter Wakelin. Bu farw eu mab hynaf Martin yn 2012 gan adael ei wraig Christine Townley a’i ferch Megan, sy’n parhau i ymddiddori yn y wobr.
Anya Paintsil – bywgraffiad byr
Ganed Anya Paintsil yn Wrecsam ym 1993 ac mae’n byw ac yn gweithio ym Manceinion. Mae ei harddangosfeydd nodedig yn cynnwys sioe unigol ddiweddar gyda Ffair Gelf Affricanaidd Gyfoes 1-4 yn Somerset House. Gellir gweld gwaith Anya mewn casgliadau cyhoeddus eraill yn y DU yn ogystal â mewn casgliadau preifat ledled y byd. Caiff Anya ei chynrychioli gan Ed Cross Fine Art.
Categorïau